大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Y militia tu fas i ysbyty Aberteifi.  Llun trwy caredigrwydd Tony Bowen. Hanes Ysbyty Aberteifi
Ebrill 2006
Ysgrifennu erthygl i'r Gambo oedd un o destunau eisteddfod Cymdeithas Ceredigion eleni. Dyma erthygl yr enillydd Margaret Davies, Beulah yn s么n am hanes ysbyty Aberteifi.

Nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai yn yr ardal a adnabyddir hyd heddiw fel 'Pontycleifion' y saif Ysbyty Aberteifi.

Dyma'r fan lle ymgasglodd pererinion a chleifion yn y ddeunawfed ganrif i dderbyn lloches, ymgeledd a gwellhad gan fynachod a oedd yn byw yn y priordy. Digwyddai hyn gyda bendith a chefnogaeth Yr Arglwydd Rhys a oedd yn byw yn y castell ar y pryd. Yn anffodus, erlidiwyd y mynachod yn wagllaw o'u cartrefi gan y Brenin Harri VIII.

Beth, felly, oedd y ddarpariaeth ar gyfer cleifion yr ardal cyn sefydlu'r ysbyty? Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn marw with eu gwaith gan nad oedd ganddynt na'r amser na'r modd i drin unrhyw afiechyd. Byddai eraill yn trin eu hafiechyd trwy wneud moddion, neu eli pwrpasol o lysiau'r maes, ac eraill yn peri gwaedlif i'r corff gan gredu bod y 'drwg' yn gadael y corff yn y gwaed a gollwyd.

Roedd tref Aberteifi hefyd yn enwog am ei `doctoriaid cwac' ac yn Fecca i ddegau o gleifion o bob rhan o'r wlad oedd yn ceisio gwellhad ganddynt (ceir yr hanes yn llyfr Cyfrinach Wncwl Daniel gan T. Llew Jones a Dafydd Wyn Jones, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer).

Gwelliant ar yr arferiad hwn oedd dyfodiad y fferyllydd lleol. Byddai hwn yn cymysgu moddion ar gyfer y salwch honedig ac yn cael ei dalu am hynny, with gwrs. Bu parch mawr Fr moddion `Teifina' a 'Crwcfa' yn y parthau hyn am flynyddoedd lawer. Fferyllydd o dre Aberteifi oedd yn gyfrifol am eu paratoi.

Wedi erlid y mynachod o'r priordy a hawlio'r adeilad gan y brenin, bu'r priordy yn gartref moethus i amryw o deuluoedd, gan gynnwys teulu'r Phillips, Tregibby a fu'n berchen arno tan y flwyddyn 1744 pan werthwyd stad y priordy i ryw 诺r bonheddig o deulu'r Gogerddan, sef Thomas Pryse. Gwerthodd yntau'r priordy i Thomas Johns, Plas yr Hafod, ger Cwmystwyth, un o arloeswyr amaethyddol amlycaf Sir Aberteifi. Dywedir i Thomas Johns symud ffenestr liw arbennig o hardd o'r priordy yn Aberteifi i'r Hafod. Yn anffodus, llosgwyd Yr Hafod yn ulw mewn t芒n mawr ac fe gollwyd y ffenestr hardd am byth.

Yn y flwyddyn 1805 prynodd gwr bonheddig o'r enw John Bowen ystad y priordy ynghyd a nifer o ffermydd llewyrchus yr ardal. Dymchwelodd ef yr hen dy ac adeiladodd blas bychan wedi'i gynllunio gan John Nash, y pensaer enwog o Lundain. Y John Bowen hwn adeiladodd Castle Green Mansion ar safle'r hen gastell, sy'n cael cymaint o sylw yn sgil adnewyddu'r castell ar hyn o bryd.

Bu nifer o denantiaid yn byw yn y plas hardd ar lan Afon Teifi am ganrif bron tan y flwyddyn 1897, pan brynwyd yr ystad gan 诺r cefnog o'r enw Dr Pritchard. Gwariodd lawer o arian i adnewyddu'r plas cyn ei werthu yn 1915.

Yn ystod y Rhyfel Mawr collodd y dref nifer o'i bechgyn yn y brwydro a chododd awydd ar rai o'i thrigolion blaenllaw i sefydlu ysbyty fechan yn Aberteifi i gofio'u haberth.

Cynigiwyd mwy nag un safle - Rosario Hill ar Ffordd Aberystwyth y to allan Fr dref oedd un, and drwy ryfedd wyrth, roedd Ilawfeddyg enwog un o ysbytai mawr Llundain, Syr John Lyn Thomas, yn byw ym mhlas Llwyndyrus ac wedi clywed am gynlluniau'r dref, cymerodd ddiddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd. Daeth i weld yr adeilad, oedd ar y farchnad unwaith yn rhagor, a gwelodd ar unwaith y potensial o sefydlu ysbyty yno.

Ei gefnogaeth of ysgogodd drigolion Aberteifi i fwrw ati i gasglu arian i brynu'r adeilad a sefydlu'r ysbyty. Dywedir bod pob un o drigolion y dref a'r ardaloedd cyfagos wedi cyfrannu, yn 61 eu gallu, tuag at wireddu'r freuddwyd. Roedd Rawer o bobl gefnog yn byw yn y dref, rhai mewn swyddi breision, yn gapteiniaid ar y mor, yn gyfreithwyr, a phobol busnes a gyfrannodd yn hael, and rhaid cydnabod gyfraniad y Fonesig Webiey Parry Pryse, Noyadd Trefawr, Ponthirwaun am ei gwaith diflino, heb son am ei dylanwad ar gymaint o'r 'gwyr mowr' (oedd yn niferus yn yr ardal) i gyfrannu symiau mawr o arian parod i'r fenter.

Roedd aelodau pob capel ac eglwys yn y dref a'r ardaloedd cyfagos yn casglu'n gyson geiniogau'r werin dlawd i chwyddo'r coffrau er mwyn prynu'r adeilad.

Gwelir llun Syr John Lyn Thomas yn hongian yng nghyntedd yr ysbyty hyd heddiw.

Prynwyd yr adeilad am 拢4,250, pris mawr yn y dyddiau hynny, ac agorwyd yr ysbyty yn 1922, a hynny'n gwbwl ddi-ddyled.

Penderfynwyd mai 'Ysbyty Goffa Aberteifi' fyddai'r enw ac mai sefydliad i goffau aberth y bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Mawr ydoedd. Cynigiwyd y swydd o lawfeddyg i Syr John Lyn Thomas, a derbyniodd yntau er anrhydedd mawr i'r dref.

Dyma rai ffeithiau diddorol sy'n werth eu cofnodi:

Lle i chwech o gleifion oedd yno ar y cychwyn. Roedd dwy nyrs i gynorthwyo'r llawfeddyg, un ohonynt yn fatron a fyddai'n gyfrifol am bob dim oedd yn digwydd yn yr ysbyty.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf codwyd t芒l o rhwng swllt a deg swllt yr wythnos ar weithwyr 'cyffredin' a'u teuluoedd; 15 swllt - 21 swilt yr wythnos ar grefftwyr neu berchen 'lle bach' eraill, yn cynnwys y sgweier a'i deulu, 42 swllt yr wythnos.

Yn fuan wedi agor yr ysbyty bu raid i fy nhadcu (oedd wedi brwydro i sefydlu'r ysbyty ac wedi cyfrannu'n hael, yn 么l mam) ddewis rhwng cael llawdriniaeth ar ei apendics ar fwrdd y gegin (oedd yn arfer cyffredin), neu yn yr ysbyty. Dewisodd yr ysbyty. Yn anffodus bu farw o dan y llawdriniaeth honno yn 诺r gymharol ifanc.

Fel y rhan fwyaf o ysbytai bach y wlad, sefydliad gwirfoddol oedd ysbyty Aberteifi yn cael ei ariannu gan roddion, trwy ewyllysiau, a chasgliadau blynyddol ym mhob capel ac eglwys. Roedd gan y tanysgrifwyr ryw gymaint o hawl i enwebu unigolion i gael triniaeth. Roedd gofal preifat hyd yn oed yn y dyddiau hynny! 42 swllt yr wythnos oedd pris ystafell iddyn nhw - felly nid oedd perygl Fr bonedd gymysgu gyda'r gwreng!

Yn y flwyddyn 1923 dechreuwyd gwasanaeth brys ac yn 1948 agorwyd adran geni babanod - yn yr un flwyddyn a sefydlu'r Weinyddiaeth Les. Dros gyfnod o flynyddoedd lawer mae'r ysbyty wedi cynnig lle i laweroedd i dderbyn gofal wedi llawdriniaeth mewn ysbytai mawr y wlad, cyn dychwelyd i'w cartrefi.

A'r ysbyty nawr yn wynebu dyfodol ansicr yn ei panes dylid, ar bob cyfri, ymdrechu i'w diogelu. Dewch i'r gad! Ymladdwn i'w chadw!

Erthygl wedi ei ysgrifennu gan Margaret Davies.


Cyfrannwch

Rhys, Caerdydd
Erthygl ddifr, er mae lot o typo's ynddo!
Fri Aug 22 13:36:45 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy