Bydd y penwythnos yn dechrau nos Wener yma , Mehefin 27, gyda noson Mentrau laith Myrddin yng Nghlwb y Cwins. Ymysg yr artistiaid fydd yn cymryd rhan fe fydd Celt, Mattoids a Newshan. Gorymdaith gan blant y Mudiad Ysgolion Meithrin fydd yn lansio gweithgareddau Dydd Sadwrn yr 28ain. Byddant yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin a chael eu harwain gan beiriant t芒n a Sam T芒n. Bydd cymeriadau eraill S4C hefyd yn cerdded, gan gynnwys Sali Mali, Norman Preis, Melog a Roli. Ar 么l i'r orymdaith gyrraedd Parc Caerfyrddin am 11 o'r gloch bydd Sioe Radio Cymru yn cychwyn o'r prif lwyfan yng nghwmni Hywel Gwynfryn, Si芒n Thomas, Steffan Rhys Williams, Angharad Brinn a The Overtones. Yn y prynhawn a'r nos yr atyniadau fydd: Sioe S4C yn cynnwys Gig Popty, Martyn Geraint, Lowri Williams, g锚mau giamocs a sioe ffasiwn. Mentrau Iaith Myrddin yn cyflwyno talentau lleol. Owain a Dylan, cyflwynwyr Radio Cymru, gydag Eden, Ail Symudiad, a Gwenda a Geinor. C么r Plant Cynradd dan arweiniad Emyr Wyn Jones. Noson Lawen y Ffermwyr Ifanc yng Nghlwb y Cwins. Bws 大象传媒 Cymru a'i chyfrifiaduron - cyfle i chi ddod ar y bws a defnyddio rhai o gyfleusterau y 大象传媒 Wal ddringo'r Urdd. Chwaraeon, peiriannau tan, coluro, paentio.
|