大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Hywel Heulyn Teyrnged i Hywel Heulyn
Mehefin 2010
Erthygl am fywyd Hywel Heulyn a hunodd ym mis Ebril 2010.

Yn ystod oriau olaf mis Ebrill, yn Ysbyty Tregaron, bu farw Hywel Heulyn Roberts, neu Roberts Silcocks fel yr adwaenid ef yng ngodre Ceredigion a thu hwnt.

Ganwyd Mr Roberts ar 16eg o Fawrth 1919 yn Sudley Road Lerpwl yn fab i John a Lily Roberts, ei dad yn beiriannydd ar y m么r ac yn dod o'r Felinheli, a'i fam yn wreiddiol o Bwllheli.

Cafodd ei enwi ar 么1 yr afon Heulyn sy'n llifo i'r cei ger Felinheli.

Arferai fynd ar ei wyliau bob haf at ei nain ym Mhwllheli, ac ym mis Medi 1936 tra'r oedd yno bu'n llygad dyst o'r fflamau, ac yna'r marwydos yn mudlosgi wedi'r tan ym Mhenyberth.

Bu'r profiad o weld y digwyddiad hanesyddol hwn yn fodd i hybu ei Gymreictod a'i safiad fel heddychwr.

Ychydig wedi gweld y `Tan yn Llyn' cafodd ei swydd gyntaf ym manc Martins yn ei dref enedigol yn Lerpwl.

Dyma'r adeg iddo gyfarfod a Margaret Davies o Synod, Ceredigion a oedd yn athrawes yn Lerpwl.

Priodwyd hwy yng nghapel Brynrhiwgaled ar 29ain o Orffennaf 1944.

Mynegodd i uchel swyddogion y banc ei fod yn dymuno gweithio mewn cangen yng Nghymru, ac fe gafodd ei symud i gangen Casnewydd.

Yno y bu nes iddo benderfynu gadael y banc pan gafodd ei apwyntio yn asiant gyda Silcocks y cwmni bwydydd anifeiliaid.

Roedd hyn yn 1949 pan ddaeth y teulu i fyw i Rydlewis.

Yn fuan wedyn enillodd etholiad i Gyngor Sir Aberteifi.

Erbyn hyn roedd wedi symud i Synod Parc ac yna i Grud yr Awel, Synod, ac wedi nifer o flynyddoedd fel cynghorydd sir cafodd ei ddyrchafu'n Henadur.

Yna ym 1974 daeth newidiadau i lywodraeth leol pan ffurfiwyd `Gyngor Sir Dyfed' ac fe etholwyd Mr Roberts yn un o'r cynghorwyr yn y Ddyfed newydd .

Ar ben hyn daeth y fraint fawr i'w ran i fod yn gadeirydd cyntaf Cyngor Sir Dyfed.

Er iddo fod yn gynghorydd annibynnol fe wyddai pawb am ei safiad dros y Gymraeg, ac fe gymerodd ran amlwg yn nhwf Plaid Cymru dros y blynyddoedd.

Bu'n asiant i Ambrose Bebb a oedd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Sir Gaernarfon ym 1945.

Yn ddiweddarach ar 么1 iddo adael ewmni Silcocks ym 1966 i ganolbwyntio ar y busnes yn Synod, bu'n gweithio'n galed i gynyddu nifer o ganghennau Plaid Cymru yng Ngheredigion a thros y ffin.

Cafodd ergydion caled. Bu farw ei ferch Rhian o lid yr ymennydd yn Rhagfyr 1993, ac yna fe syfrdanwyd pawb gyda marwolaeth sydyn Gwen, merch Meinir yn 16 oed yn Ionawr 1995.

Collodd ei briod yn Chwefror 2004, ond er yr holl stormydd cadwodd ei ffydd gan wynebu'r dyfodol yn ddewr.

Gweithiodd Hywel Heulyn Roberts yn galed dros ei gydwladwyr, dros yr iaith Gymraeg a thros y pethau gorau yn ein cymdeithas. Coffa da amdano.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy