大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Gillian Clark Pentre'r Pencerddi
Mai 2008
Mae Talgarreg yn gartref i Fardd Cenedlaethol Cymru

"Roedd trigolion Talgarreg wrth eu boddau'n ddiweddar pan gyhoeddwyd mai Gillian Clarke, o Flaen Cwrt, fydd Bardd Cenedlaethol Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

Bydd Gillian yn dilyn yr Athro Gwyn Thomas o Fangor a Gwyneth Lewis o Gaerdydd fel ein trydydd Bardd Cenedlaethol.

Sefydlwyd swydd Bardd Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2005 gan yr Academi - yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru - gyda nawdd y Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ers hynny, mae'r cynllun wedi tyfu mewn statws a bri, ac mae'n fraint yn wir i fardd gael ei dewis - neu ei ddewis - i gynrychioli Cymru fel hyn.

Mae gan Gymru eu Phrifeirdd wrth gwrs, ac mae Talgarreg yn gartref i un o'r rhai enwocaf - Donald Evans, y Prifardd 'Dwbl Dwbl'. Fodd bynnag, wrth fynd ati I sefydlu swydd Bardd Cenedlaethol Cymru, penderfynodd yr Academi ei fod yn hen bryd i ni gael ein Ilais ein hunain ym maes barddoniaeth ryngwladol, yn hytrach na chael ein cynrychioli gan y Poet Laureate, swydd sy'n perthyn i frenhiniaeth Lloegr.

Eisoes mae'n Beirdd Cenedlaethol wedi Ilwyddo i ganu am bynciau sy'n bwysig i ni fel Cymry - o ennill yn y rygbi i golli arwyr cenedlaethol fel Ray Gravell a Kyffin Williams.

Mae penodiad Gillian yn achos i Gymru gyfan ddathlu. Fe'i ganed yng Nghaerdydd i deulu o Sir Gaerfyrddin, and mae wedi ymgartrefu yn Nhalgarreg ers blynyddoedd. Yn ogystal 芒 bod yn fardd, mae'n ddramodydd, golygydd a chyfieithydd, ac astudir ei gwaith gan ddisgyblion ar gyfer TGAU a Lefel A ar draws Prydain.

Cyfieithwyd ei gwaith i nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg gan y bardd o Landysul, Menna Elfyn.

Mae Gillian Clarke wrth ei bodd gyda'r swydd newydd. Dywedodd: 'Mae'r Bardd Cenedlaethol yn lysgennad, oddi fewn a thu hwnt i Gymru. Gobeithiaf y bydd yn agor drysau. Gwelaf y modd mae'r Academi wedi sefydlu'r swydd fel un sy'n datblygu'n gynyddol, gyda gwaith un bardd yn adeiladu ar y Hall, gan dalu sylw gofalus i ddwyieithrwydd Cymru. Mae barddoniaeth i bawb.'<.>

Dywedodd yr Archdderwydd Dic Jones, sy'n byw ym Mlaenannerch: 'Wy'n arbennig o falch fod rhywun wy'n 'nabod, ac o'r ardal 'ma, wedi derbyn yr anrhydedd hyn. Mae'n hen ddyledus iddi.'

Edrychwn ymlaen at ddwy flynedd Iwyddiannus iawn i Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol Cymru - a chyfle arall i roi Talgarreg ar y map Ilenyddol!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy