Mae eglwys Blaencefn, y Ferwig, yn fwy nag adeilad cerrig a sefydliad crefyddol i enwad arbennig. Mae yn ganolfan gymdeithasol a diwylliannol i'w haelodau a hefyd yn atynfa i weithgareddau bro a sylwedd dros y blynyddoedd. Erys ysbryd y trigolion cynnar y ffermydd a'r tyddynnod a fu yn asgwrn cefn i'r achos yn gyson trwy ei hanes.
Ac ar y Sul, 21 Medi cynhaliwyd cyfarfodydd dathlu daucanmlwyddiant i gydredeg a'r cyrddau mawr traddodiadol.
Tri gair sy'n dod ar unwaith i'r meddwl yn ei atgofion am Flaencefn yn 么l y Parch.D. Hughes-Jones - 'Croeso, caredigrwydd, cymeriadau'.
'Cefais bopeth mae Gweinidog yn gweddio ei gael yno. Eglwys gytun ac aelodau oedd ag ysbryd i weithio'. (Y Parch. H. Gwynfa Roberts)
'Roedd croeso a charedigrwydd aelodau Blaencefn yn ddiben draw. Bob tro yr awn yno teimlwn fy mod yn cwrdd a theulu. Teimlwn gynhesrwydd yr aelwyd'. (Y Parch. Tom Roberts)
`Y mae i Gapel Blaencefn le cynnes yn fy nghalon yn bennaf am ei fod yn gapel cynnes'. (Y Parch. Ifor ap Gwilym)
Daeth torf niferus a gwerthfawrogol ynghyd i flasu'r cyfraniadau ac i dalu teyrnged i'r aelodau presennol a'r gorffennol am eu ffydd, ei gweithgarwch a'u hymroddiad. Saif yn llusern o oleuni.
Llywyddwyd yr oedfa gan y cyn-weinidog, y Parch. W. Raymond Jones. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan y Parch.
Gareth Morris a chafwyd cyfarchion gan dri gwr cymwys iawn. Yr ychwanegiad I'w neges ar ran yr Henaduriaeth cyfeiriodd Twynog Davies at achlysur arall. Wedi iddo ddysgu cor Blaencefn i ganu `Clawdd Madog' ar gyfer yr eisteddfod a chael llwyddiant a'r wobr, tarddodd y syniad a genedigaeth Cor Cymysg Penparc.
Siaradodd Mr Hywelfryn Jones yn gynnes ar ran yr ofalaeth a'r Parch. Irfon C. Roberts ar ran eglwysi'r cylch. Plethwyd ei eiriau difyr gan sbrinclad hael o hiwmor.
Cyflwynwyd 'Hanes yr Achos' gan y Dr. Eryn White - a chyfrannwr cyson a phoblogaidd ar y cyfryngau. Drwy gynhesrwydd ei phersonoliaeth, ei hymchwil trylwyr, a dawn y cyfarwydd, llwyddodd i ddal sylw ac edmygedd y gwrandawyr astud - i gyfleu testun a ymddangosai'n drwm o hirbell - yn ddifyr a diddorol.
Cyhoeddwyd llyfryn hardd o waith golygyddol manwl y Dr. Eryn White.
|