大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Aled Rees gyda'i Isuzu Rodeo Denver Ffermwr Gorau Cymru
Ionawr 2010
Hanes Aled Rees, Trefere Fawr, enillydd Fferm Ffactor 2009.

Ffermwr o ardal y Gambo yw enillydd cyntaf Fferm Ffactor ar S4C sef rhaglen newydd i ddod o hyd i ffermwr gorau Cymru.

Daeth Aled Rees, sydd yn 38 mlwydd oed ac yn rhedeg fferm deuluol Trefere Fawr, Penparc, Aberteifi i'r brig o blith 10 o ffermwyr eraill o bob cwr o'r wlad.

Dros gyfnod o wythnosau gosodwyd gwahanol dasgau ar gyfer y cystadleuwyr ac ar ddiwedd pob rhaglen roedd un cystadleuydd yn gorfod gadael.

Y dasg olaf oedd annerch Y Fn Elin Jones, Gweinidog Cefn Gwlad yn y Cynulliad.

Roedd yn amlwg fod Aled wedi mwynhau'r profiad o annerch y Gweinidog ac wedi dangos ei frwdfrydedd ynghyd a'i bryderon am sefyllfa amaethyddiaeth heddiw.

Wedi cwblhau'r tasgau i gyd daeth y wobr gyntaf sef Isuzu Rodeo Denver, yn 么l i glos fferm Trefere Fawr.

Cyflwynwyd y rhaglen gan Daloni Metcalf a'r beirniaid oedd y Ffermwr/Darlledwr Dal Jones, Llanilar a'r Athro Wynne Jones, Pennaeth Coleg Amaethyddol Harper Adams, Swydd Amwythig - y ddau ohonynt yn hollol gytun fod Aled yn llwyr haeddu'r wobr.

Mae Aled yn ffermio Trefere Fawr, sydd yn fferm organig, gyda'i ewythr David Jenkins ynghyd a'i wraig, Hedydd a'r plant Delor, 14, Owain, 11 a Mared sydd yn 8.

Yn ogystal a ffermio mae Aled yn weithgar iawn gyda'r gymuned ffermio organig ac yn eistedd ar nifer o bwyllgorau cenedlaethol yn ymwneud a'r diwydiant.

Mae'n gyn aelod o fudiad y Ffermwyr Ifanc ac y mae'r sgiliau a ddysgodd a'r profiadau a gafodd wedi bod o gymorth mawr iddo.

Bu teulu Trefere Fawr yn gefnogol i'r achos yng Nghapel Ffynnonbedr ar hyd y blynyddoedd ac y mae Aled a'r teulu yn dal at y traddodiad hwnnw.

Mae'n weithgar a bob amser yn barod i wneud ei ran.

Fel g诺r cystadleuol iawn sydd bob amser yn chwilio am sialens newydd yr oedd Aled with ei fodd yn mynd i'r afael 芒'r gwahanol dasgau a osodwyd ar y rhaglen. El hoff dasg oedd aredig a cheffylau - dim sin tractor na pheiriant i aflonyddu ar y tawelwch with i'r ddau geffyl dynnu'r aradr a throi'r tir yn hamddenol o'i gymharu a phrysurdeb ffermio heddiw.

Y mae'n ddiolchgar i'w deulu am eu cefnogaeth yn ystod cyfres Fferm Ffactor gan ei fod wedi gorfod treulio gymaint o amser oddi cartref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy