大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Rasputin y Band Roc Rasputin y Band Roc
Glywsoch chwi s么n am Rasputin? Wel do, siwr!
Mynach egsentrig oedd y gwreiddiol, yn perthyn i urdd eglwys uniongred Rwsia a gafodd ddylanwad syfrdanol ar deulu'r Tsar, yn enwedig y Tsarina Alecsandria. Bu farw mewn amgylchiadau dramatig. Fe'i gwenwynwyd 芒 d么s oedd ddigon i ladd chwech o ddynion, fe'i saethwyd dair o weithiau ac fe'i taflwyd i mewn i lyn o i芒. Ac eto ceisiodd ddianc.

Ond heddiw mae gennym fand roc a fabwysiadodd yr enw ond sydd 芒 chefndir a gweledigaeth tipyn yn wahanol. Mae pump o'r bechgyn yn lleol a phedwar o ardal Y Gambo.
* Dafydd Driver, Pentre, Ciliau Aeron (Ysgol Aberaeron, Blwyddyn 11), sy'n chwarae git芒r flaen ac yn canu cefndir. Prynodd ei offeryn, sef Gibson Les Paul yn Boston, UDA. Arwyr: Jimi Henrix a John Frusciante.
* Rhys Evans, Hafod lwan, Caerwedros (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13. Chwarae git芒r f芒s (Tanglewood). Arwyr: Red HotChili Peppers a Lostprophets.
* Deiniol Glyn, Brynawelon, PostBach (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13). Chwarae git芒r rhythm (Strat ff锚c - addaswyd) Arwyr: Zack de la Rocha a Slash.
* Dylan Jones, Dewi Villa, Ffos-y-Ffin (Ysgol Aberaeron, Blwyddyn 11). Drymiwr (Drum World). Arwr: Keith Moon
* lfan Rees, Brithdir, Penmorfa (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13). Prif leisydd a git芒r rhythm a rannol blaen (Strat ff锚c - addaswyd). Arwyr: Incubus a Super Furry Animals.

Roedd y pump yn derbyn hyfforddiant unigol oddi wrth Mike Eades a daliodd eu cynnydd a'u gallu cerddorol ei sylw. Awgrymodd iddynt ddod at ei gilydd. Tan yn ddiweddar bu'n eu hyfforddi yn neuaddau Caerwedros a Llwyncelyn unwaith bob pythefnos neu yn amlach ar gyfer gig. Mae'r pump yn gerddorol a'u hagwedd yn aeddfed a chyfrifol. Yn eu cwmni teimlir egni'r ifanc, mwynhad a hwyl yn eu chwarae a chreadigrwydd ffres. Maent yn joio mas draw ac mae'r sialens yn wrthgyferbyniad teilwng i ofynion eu cwrs addysg.

"Mwy na thebyg bydd rhai ohonom yn mynd i'r coleg blwyddyn nesaf. Ond rydym am aros gyda'n gilydd fel gr诺p," meddai un ohonynt. Daw aelodau a syniadau o 'riffs' cerddorol. T欧f yn waith creadigol gr诺p. Yna daw'r geiriau.

Maent yn cyfansoddi y geiriau ei hunain ac mae caneuon gwreiddiol yn cynnwys 'Yr Estron', 'Sharabang', 'Er Cof', 'Dannedd Miniog', 'Gw锚n' a 'Gwenno Guevara Freedom Fighter'.

Ymddangosodd Rasputin yn eu gig cyntaf yn Rali Clwb Ffermwyr Ifanc ym Maenglowon Fawr i gynulleidfa o 1,500. Yn dilyn eu llwyddiant maent wedi ymddangos mewn nifer o gigs gan gynnwys G诺yl Pysgod Aberaeron, Gwesty'r Emlyn gyda Geraint Lovgreen a'r Enw Da, Gwesty'r Plu fel rhan o 'Gigwam', a Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ar yr un llwyfan 芒 Dafydd lwan ac Elin Fflur. Yn ddiweddar, roeddent yn un o bump gr诺p wnaeth chwarae yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin mewn gig a drefnwyd gan Gymdeithas yr laith i brotestio yn erbyn 'Radio Carmarthenshire' a'u polisi uniaith Saesneg.

Dymuna'r bechgyn gydnabod cymorth llawer o bobl; yn bennaf i'w hyfforddwr Mike Eades am ei ddysg, ei gyngor a'i amynedd, i Catrin Owens am ei hyfforddiant ym maes mynegiant cerddorol, i'w cefnogwyr teyrngar yn enwedig Owen, Rhys B, Michael, Rhys D a Clai, ac i'w teuluoedd am eu cefnogaeth ac am fod yn 'roadies' di-d芒l.

  • Ewch i ddarllen adolygaidau o gigs y canolbarth, mae cyfle i chi gael 拢30 am ysgrifennu adolygiadau eich hunan - clciwch yma am fwy o fanylion.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy