大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Clwb Caerwedros yn dathlu ar 么l ennill Steddfod CFFI Ceredigion Clwb Ffermwyr Ifanc Caerwedros yn ennill
Rhagfyr 2005
Ar y nos Iau, 27ain a'r dydd Sadwrn, 29ain o Hydref, bu'r clwb yn cystadlu yn Eisteddfod y Sir yng Ngholeg Llambed, a chafwyd 'steddfod i'w chofio!

Ar ddiwedd y ddwy sesiwn, daeth Caerwedros i'r brig gyda 97 o bwyntiau. Dyma'r ail waith yn olynol iddynt ennill a'r pinacl oedd ennill y c么r!

Dyma ganlyniadau Caerwedros:
laf- C么r; Parti Deulais; Ensemble Lleisiol; Parti Llefaru; Lowri Evans - Unawd 26 neu iau; Lowri Jones - Adroddiad Digri; Teleri Evans - Ysgrifennu Monolog; Cywaith Clwb - DVD Asiantaeth Garu.

2ail - Lona Harris - Unawd 13 neu iau; Carwyn a Heledd -- Deuawd; Lowri, Bethan a Gareth - Triawd Cerdd Dant; Bethan a Carys - Deuawd Doniol; Gethin Morgan - Ysgrifennu Cerdd; Lowri Jones - Ysgrifennu Sgwrs Negeseuon Testun.

3ydd - Bethan a Gareth - Cyflwyniad Theatrig; Lea Jones - Brawddeg.

Llongyfarchiadau mawr i bawb am wneud mor dda!

Ar y nos Lun wedyn, cafwyd parti Calan Gaeaf i'r aelodau gael hwyl ac ymlacio. Cafwyd noson hwylus o g锚mau ac ar Dachwedd 7fed, cawsom noson o `Gladiators'. Ar ddiwedd yr wythnos yma, gwelwyd 3 o'r aelodau, sef Trystan, Gwawr ac Erin, yn perfformio ar lwyfan ysgol Aberaeron yn eu perfformiad o'r sioe Gr卯s, a chafwyd sioe o safon uchel iawn.

Bu dwy aelod yn ceisio am daith ryngwladol ar ddydd Sul, Tachwedd 13eg ac yn dilyn y cyfweliadau, fe sicrhaodd Lea Jones drip i'r Alban ym Mehefin a Lowri Jones ymweliad ag Ulster fis Ebrill nesaf. Llongyfarchiadau mawr i chi!

Y noson wedyn, cynhaliwyd cyngerdd yn y neuadd a braf oedd gweld cymaint wedi troi allan i fwynhau gwledd o dalentau lleol. Croesawyd pawb i'r cyngerdd gan Lea Jones y Cadeirydd ac fe fu Llywydd y Clwb, Emyr Jones yn ein tywys drwy eitemau'r Eisteddfod am weddill y noson. Braf oedd cael y cyfle i ddangos ffrwyth yr holl ymarfer i bobl leol.

Eisteddfod Cymru
Daeth diwrnod Eisteddfod C.Ff.I. Cymru ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 19eg ac roedd clwb Caerwedros yn cystadlu mewn 5 cystadleuaeth lwyfan. Roedd 2 fws yn llawn o aelodau, rhieni a ffrindiau yn dechrau o sgw芒r Synod am 9 o'r gloch y bore, gyda dyn camera o gwmni teledu 'Telesgop' yn ffilmio'r daith!

Bu Lowri Evans yn cystadlu yn yr unawd dan 26 a daeth yn ail. Cafodd Lowri Jones yr ail wobr yn yr adrodd digri a daeth yr ensemble yn gydradd drydydd. Yn y cystadlaethau gwaith cartref, fe enillodd y cywaith clwb - sef DVD yn hysbysebu'r clwb fel asiantaeth garu, a daeth Teleri Evans yn gydradd drydydd yn ysgrifennu monolog.

Ond uchafbwynt yr Eisteddfod oedd ennill cystadleuaeth y c么r ar ddiwedd yr Eisteddfod, gyda Catrin Evans yn arwain a Delyth Griffiths ac Ann Jones yn cyfeilio. Fe enillwyd cwpan Dyffryn Tywi - y tro cynta' i'r cwpan ddod n么l i Geredigion ers 1988. Ceredigion hefyd a enillodd y darian am y mwyaf o farciau yn yr Eisteddfod a mawr fu'r dathlu yn y gwesty hyd oriau m芒n y bore! Edrychwn ymlaen yn awr at weld yr uchafbwyntiau ar y teledu ar y 9fed o Ragfyr.

I'r rhai nad oedd wedi blino yn ormodol, cafwyd noson o `Generation Game' ar y nos Lun wedyn yng ngofal Nia Jones a Dai Morgan a chafwyd noson dda iawn. Cynhaliwyd Cymanfa'r Frenhines a Ffarmwr Ifanc yng Nghapel Brynrhiwgaled ar nos Sul, Tachwedd 27ain. Bu'r Frenhines, Meryl Owens, a'r Ffarmwr Ifanc, Rhydian Rees, yn trefnu'r digwyddiad sirol yma ar y cyd gan fod y ddau yn aelodau o Gapel Brynrhwgaled a chafwyd noson wych.

Roedd y capel yn orlawn, gyda Catrin yn cael hwyl wrth arwain a'r band yn gyfeiliant bendigedig. Braf oedd gwrando ar y Frenhines, y Ffarmwr Ifanc a'r 4 morwyn yn perfformio gyda'i gilydd ynghyd 芒'r ensemble o glwb Caerwedros. Llywydd y noson oedd Gareth Evans a chafwyd araith hwyliog ganddo, yn 么l ei arfer. Roedd hi'n noson ffantastig! Diolch i aelodau'r `Ffordd Ymlaen' am baratoi'r capel a'r festri ar gyfer y digwyddiad.

Cofiwch edrych allan amdanom pan fyddwn yn mynd o amgylch yr ardal yn canu carolau ar nos Lun, I9eg o Ragfyr, gan ddechrau o'r neuadd am 6.30. Mi fyddwn yn codi arian i'r Uned Gancr i bobl yn eu harddegau yn Ysbyty Arch Noa. Mi fyddwn hefyd yn cynnal dawns gyda'r gr诺p Coda yn Llanina ar Ionawr I3eg, gyda'r elw yn mynd at yr un achos.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy