大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Portread Arwel Davies, Pantswllt, Talgarreg
Ionawr 2006
Portread o Arwel Davies, ffarmwr o ardal Talgarreg sydd wedi bod yn ffermio ers iddo adael yr ysgol yn bymtheg oed.
Ers faint o amser ydych chi wedi bod yn ffermio?
Ers gadael yr ysgol yn bymtheg oed a dod adref i Bantswllt i'r fferm deuluol. Cefais gyfnod yng Ngholeg Felinfach i gael hyfforddiant ym myd amaethyddiaeth. Ar 么l priodi bu^m yn ffermio fferm Blaencerdin Fach, Ffostrasol.

Pa newidiadau ydych chwi wedi ei weld ym myd amaethyddiaeth dros y blynyddoedd?
Nifer fawr mewn cyfnod o rhyw ddeg mlynedd ar hugain. Gwelais ddirywiad mawr yn y nifer o ffermwyr oedd yn gwerthu llaeth yn ardal Talgarreg. Ar un adeg roedd 50 o ffermydd yn gwerthu llaeth, ond erbyn heddiw dim ond 10 sydd ar 么l. Er hyn nid oes dirywiad yn nifer y gwartheg a gedwir. Mae maint peiriannau amaethyddol wedi cynyddu ac mae fwy o stoc ar gyfartaledd i bob gweithiwr er mwyn gwneud bywoliaeth.

Sut ydych chi'n gweld ffermio yn ardal Y Gambo yn newid yn y dyfodol?
Yn y tymor byr dal rhywbeth yn debyg ond bydd rhaid ehangu yn y tymor hir a phethau i newid gyda phris olew wedi cynyddu byddai gofyn cael cynnyrch lleol i'w ddefnyddio'n lleol.

Ydych chi'n rhagweld y byddwch yn arallgyfeirio, ac os ydych, i ba gyfeiriad yr ewch?
Dim ar hyn o bryd ac nid i unrhyw gyfeiriad gan y teimlaf nad ffermwr fyddwn i wedyn ac wedi colli ffordd o fyw.

Beth yw eich hoff amser a'ch cas amser ar y fferm?
Fy hoff amser yw'r gwanwyn pan mae natur yn dihuno ac rwy'n casau'r gaeaf pan mae'r tywydd yn wael a galwadau'r fferm yn drwm.

Pa lwybr mae eich tri plentyn wedi ei ddilyn?
Mae Hawys y ferch yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth; Dyfrig y mab ieuengaf yn y coleg ym Mhontypridd 芒'i fryd ar fynd yn gyfrifydd; ond mae Hywel yr ail blentyn wedi penderfynu mai ffermwr yw am fod ac yn gweithio adref ar y fferm.

Pan nad ydych yn ffermio beth yw eich diddordebau?
Ychydig o amser sydd gennyf at ddiddordebau gan fod cymaint i'w wneud ar y fferm ond rwy'n hoffi cefnogi cymdeithasau lleol ac mae'r capel ym Mhisgah yn bwysig iawn i mi.

Pe na byddech wedi mynd i ffermio pa swydd arall fyddai wedi mynd 芒'ch bryd?
Mae'n anodd ateb gan i mi roi fy mryd ar fod yn ffermwr ers pan yn ifanc iawn. Efallai y fyddwn wedi mynd i'r byd mecanyddol neu drydanol.

Fel cyn gadeirydd o Undeb Ffermwyr Cymru Ceredigion a oes angen dwy Undeb ar Gymru?
Nid oes angen dwy Undeb ar Gymru a byddai'n braf gweld uno er fod 'na lawer o gydweithio rhwng y ddwy Undeb ac amcanion y ddwy Undeb yr un peth. Ni welaf hyn yn digwydd yn y tymor byr.

Pwy fu y dylanwad mwyaf arnoch?
Glyn Thomas o Goleg Amaethyddol Felinfach gan iddo bwysleisio cadw meddwl agored at fusnes. Bu dylanwad fy mam a nhad hefyd yn amhrisiadwy.

Ar wah芒n i Mary y wraig gyda phwy yr hoffech fynd allan am bryd o fwyd?
Gaynor Davies gan mai ei llais hi sydd yn fy nihuno bob bore ar y radio.

Sut fyddech yn disgrifio eich hun mewn tri gair?
Penderfynol, siaradus, Cymro.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy