大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
C么r Merched Bro Nest Dathlu ar y Gamlas
Mai 2007
I ddathlu pen-blwydd C么r Merched Bro Nest yn bymtheg oed, aeth llond bys ohonom, yn aelodau a ffrindiau, am ddeuddydd i Gaer.

Gan mai arweinyddes y c么r, Margaret Daniel, oedd wedi gwneud y trefniadau ar ein cyfer, gallem ddisgwyl yn hyderus y byddai'r cyfan wedi'i baratoi'n drefnus a thrylwyr ymlaen llaw.

Serch hynny, roedd hi wedi cadw un atyniad arbennig yn gyfrinach llwyr. Pan gyrhaeddwyd gwesty moethus pedair seren ar y nos Wener, a hwnnw reit yng nghanol y ddinas, roeddem yn si诺r o le cysurus, ta beth.

Fore trannoeth buom yn crwydro hyd strydoedd Caer a'n swyno gan brydferthwch y ddinas a'i hadeiladau gosgeiddig. Tua hanner dydd cawsom ein cario i westy arall, ac ar 么l torri syched, fe'n harweiniwyd allan drwy'r drws cefn. Ychydig lathenni o'n blaen roedd camlas a bad 70 troedfedd o hyd yn aros amdanom.

Croesawyd ni ar ei bwrdd gan y capten a'n gwahodd i eistedd wrth fyrddau wedi'u harlwyo'n barod ar gyfer cinio. Ymhen dim roedd y bwyd yn cael ei gario o gegin y gwesty i'r bad, y L'eau T Cuisine, a ninnau yn awchu am y pedwar cwrs a oedd o'n blaen.

Doedd hi ddim yn anodd dychmygu ein bod ym Mharis neu Amsterdam wrth inni deithio'n hamddenol braf ar brynhawn hyfryd o wanwyn ar gamlas y Shropshire Union. Wnaethon ni ddim teithio ei 66 milltir o hyd, ond cawsom flas ar hyfrydwch trafnidiaeth a oedd mewn bri mewn oes a fu.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy