大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Llun o geiliogod paun Anrheg anarferol i Mam
Mawrth 2006
Mae ceiliog paun go anarferol yn byw yn Llangranog - nid yn unig y mae'n cael gorwedd ar y soffa, ond mae hefyd yn deall Cymraeg!

"Roedd Doreen Jones, Frongoch, Llangranog, wedi dotio ar y peunod ar lawntiau Castell Caerdydd. Ac ymhen wythnos neu ddwy gwelodd Haydn, ei mab, eitem ddiddorol ar raglen 'Hel Straeon' ar S4C. Roedd gan y ffermwr arbennig hwnnw ormod o geiliogod paun.

'Presant ardderchog i Mam!' meddyliodd Haydn. Benthycwyd caets a'i gludo i Frongoch. Fe'i bedyddiwyd yn 'Mach' oherwydd iddo ddod o'r fferm oedd yn ardal Machynlleth i gyfeiriad Llanbrynmair.

Roedd Mach with ei fodd ymhlith gerddi helaeth Frongoch. Clwydai yn y coed cyfagos yn ystod y dydd a dihangodd unwaith i Wersyll yr Urdd. Felly rhoddwyd ystafell o fewn yr hen stablau iddo yn gartref parhaol.

A chymeriad a hanner yw Mach! Erbvn diwedd Awst bydd yn colli ei gwils mwya' a'r copa pluog ar ei ben. Ond wedyn erbyn Mehefin bydd yn ei ogoniant a'i gynffon ysblennydd - fel dywed englyn Isfoel:

Canwr claer, seceina'r clos - yn agor
Hugan gwerth ei dangos,
Delwau yr haul, dail y rhos, A llun cywrain llwyn ceirios.

Bydd dyn y glo yn casglu'r cwils lliwgar i addurno'i fachau pysgota.

Cafodd Mach gymar am gyfnod - i芒r secsi iawn o'r enw Gwcs and ni fu'r briodas yn llwyddiannus a bu farw'r cywion o f芒n glefydau.

Erbyn hyn mae Mach yn 22 mlwydd oed ac yn cael ei sbwylio yn beunwr di-briod. Caiff fwyd parot, letys, blodfresych a brocoli, heb s么n am sbrowts a llysiau Tom yn yr ardd.

'Mae'r cythraul bach yn codi popeth o'r ardd. Bydd yn dilyn Doreen ac yn codi'r blodau fel mae hi yn eu plannu. Ac mae blodau a blagur cina b锚ns yn flasus iawn. I'w uchder ymestyn - ni dyf yr un ffeien,' medde Tom.

Yn wir, mae'n un o'r teulu. Pe baech yn ymweld 芒 Frongoch nid golygfa anghyffredin fyddai gweld Mach yn 'i lordio hi o flaen y Rayburn. A druan 芒 Doreen, rhaid iddi eistedd ar gadair galed iddo fe McNabs - Mach - gael 'mystyn ma's ar y soffa. A phan gaiff siawns fe neidia Mach lan y st芒r a mewn i ystafell gysgu Tom a Doreen. Yno fydd e mewn tymer ddrwg iawn yn pigo gwydr y bwrdd gwisgo gan ymosod yn ffyrnig hyd at waed ar lun ei hun, neu lun yn ei dyb ef - wrthwynebydd dieithr. Bydd yn gwasgaru holl drugareddau'r bwrdd i'r llawr yn ei dantrwm.

'Mae e'n lico cwmni,' medde Doreen eto. 'Mae'n ymlacio i s诺n y teledu a'r fideo. A wir i chwi mae e'n deall Cwmrag. Neith e ddim sylw o'r Saesneg. We nhw si诺r o fod wedi dysgu Cwmraeg iddo lan ffor 'na yn Llanbrynmair. A pheth arall diddorol mae e fel se fe'n ymwybodol fy mod i'n ddall. Rwy'n si诺r fod e'n gwbod.'

Nid yw yn crwydro cymaint nawr. Unwaith daethpwyd o hyd iddo ar hen plas Rhydclomennod. Chwilio am 'ledi' si诺r o fod.

Dywed Haydn, 'Codai fel hofrennydd a d么i lawr, fel gleider wedi ei demptio gan fwyd. Rwy'n falch fy mod wedi ei brynu i Mam. Mae gwmni mowr - a ffefryn y teulu. Gofynnais i'r ceidwaid yng Nghastell Caerdydd - faint yw oes peunod? Nid oedd neb yn gwybod. Ac os nad yw e'n dragwyddol mi fydd yr hwyl a'r atgofion gyda ni am byth.'

Os oes gennych hanesyn am anifail neu aderyn arbennig - danfonwch air."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy