Llong mewn potel. Er o wneuthuriad cyfoes a chain, dyma a oedd wedi ei ysgrifennu o dani (yn Saesneg):
'RESOLVEN'. Y Marie Celeste Gymreig. Brig a adeiladwyd yn 1872. Darganfuwyd yn hwylio a neb ar ei bwrdd ym Mae Trinity, Newfoundland a'i hwyliau wedi eu gosod a th芒n yn y gali, ond un cwch yn eisiau. Ni welwyd y Capt J. Jones, Ceinewydd na'i griw byth wedyn. Suddodd yn 1888.'
Ian Ap Dewi yn trafod y llong ar raglen Hywel a Nia
Ond beth yw'r hanes go iawn? Llong 143 tunnell oedd y Resolven. Roedd ar ei ffordd o Harbour Grace, Newfoundland ar 么l dadlwytho halen o Sbaen i Snug Harbour, ymhellach i fyny arfordir Labrador, i godi llwyth o benwaig ar gyfer y farchnad yn Ewrop. Ond rhwng y ddau borthladd dyma hi'n cael ei darganfod yn wag ym Mae Trinity gydag ond ychydig ddifrod i'r hwyliau, dau ddiwrnod yn unig ar 么l gadael Grace. Ond beth oedd wedi digwydd yn y cyfamser? Erbyn heddiw, y gred yw fod pawb wedi gadael y llong mewn argyfwng oherwydd bygythiad mynydd ia (eisberg). Fe'i darganfuwyd hi gan long arall, Y Mulland, ac roedd capten y llong honno wedi gweld mynydd ia yn y cyffiniau y diwrnod cynt. Ond a oes yna esboniad arall?
Fe hwyliodd y Resolven eto ar 么l hyn, ond cafodd ei dryllio ar 27 Gorffennaf 1888, a dyna ddiwedd y llong.
Pwy oedd y Capt. J Jones o Geinewydd? A oedd ganddo griw lleol o Gardis, fel oedd yn arferol y dyddiau hynny? Cwmni o'r Cei oedd yn berchen y llong, G. Griffiths a'i Gwmni, yn 么l rhai, ac roedd hon yn un o nifer o longau a oedd yn gweithio allan o Newfoundland lle cafodd ei adeiladu, ac o dan berchnogaeth Gymreig. Yr awgrym yw nad oedd gan y Capten Jones lawer o brofiad chwaith, ac yn sicr dim profiad o fynyddoedd i芒, efallai. Felly, faint oedd ei oed? Beth oedd adwaith y cwmni?
A oes rhywun o Geinewydd neu sydd 芒 chysylltiadau a all roi rhagor o wybodaeth? Ysgrifennwch i'r Gambo.
(Diolch am wybodaeth gan J. Geraint Jenkins yn 'Maritime Heritage' a chan Susan Cambell-Jones yn 'Welsh Sail').
stori gan Ian Ap Dewi
|