大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Joss a Gareth Jones Dringwyr o Fri!
Gorffennaf 04
Mae dringo y tri mynydd uchaf yn yr Alban, Lloegr a Chymru mewn 24 awr yn gamp arbennig iawn.

Dyna wnaeth Gareth Jones a'i fab Joss (ond 13 oed) ar 18 Mehefin eleni trwy ddringo Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa. Mae'n orchest arbennig i oedolion ond i grwtyn 13 oed sy'n ddisgybl yn Ysgol Ddwyieithog Dyffryn Teifi mae'n lwyddiant i'w ryfeddu.

Ffermwr cyhyrog yw Gareth o Bant y Bedw, Plwmp ac mae ef yng nghwmni ei fab Joss yn hoff iawn o gerdded tir uchel Cymru. Mae'r ddau wedi cerdded Plumlumon, Machynlleth i Eisteddfa Gurig, Ystrad Fflur i Dyffryn Elan ac wedi llwyddo i ddringo 10 o 15 o gopaon Bryn mewn diwrnod. Eu uchelgais y flwyddyn nesaf yw dringo'r pymtheg. Bu Gareth yn dringo a cherdded yn Seland Newydd yn nyddiau ei ieuenctid.

Yng nghwmni wyth oedolyn o Ddyffryn Ceiriog dechreuodd Gareth a Joss ddringo Ben Nevis (4440 tr) am 4.30 y prynhawn wedi gyrru i fyny mewn moduron i Fort William. Roedd y llwybr yn gymharol serth gyfyl y daith. Cariai Gareth y sach gefn, ac meddai Joss, "Roedd Dad yn dal fi n么l ambell waith." Am 7.30 yr hwyr roeddynt ar y copa a'r eira yn disgyn yn drwm. Roedd hefyd yn oer iawn ond roedd y golau yn dda.

"Cefais un Tracker bar a deng munud ar y copa cyn disgyn i Glen Nevis erbyn 9.30 y.h. a gyrru ar wib i Wasdale yn Ardal y Llynnoedd yn Cumbria. Cafwyd brechdannau a d诺r yn y car. Cyrhaeddon ni yno am 3 y bore a dechrau dringo Scafell Pike yn syth. Roedd yn fwy serth na Ben Nevis ac yn oer iawn ar y copa am 5 y bore a'r gwynt yn chwythu yn gryf iawn. Roedd yr olygfa yn wych iawn a gwelwn am filltiroedd. Roeddwn n么l eto am hanner awr wedi saith ar dir gwastad eto yn y dyffryn'.

Rhaid oedd gyrru yn ddi-dor ar hyd y draffordd M6 a ffyrdd gogledd Cymru cyn ymdopi 芒 ffyrdd troellog Eryri a chyrraedd Pen y pas am hanner awr wedi hanner dydd. Aethant i fyny y 'Pyg Track' a Chrib Goch a chyrraedd copa'r Wyddfa am chwarter wedi dau (3560 tr).

'Dim amser i fynd i'r caffi na dod lawr ar y tr锚n. Cyffwrdd 芒'r copa. Roedd yn ofnadwy o oer. Dychwelwyd ar Lwybr y Mwynwyr. Dechreuais jogo am ychydig ond roedd Dad wedi blino gormod. Ha! Ha! Roeddwn n么l gyda'r moduron yn y maes parcio am hanner awr wedi tri. Cymerodd y daith 23 awr 18 munud a 38 eiliad. Aethom draw wedyn i Westy Pen y Gwryd lle bu t卯m enwog Eferest yn cyfarfod ac yn hyfforddi.'

Meddai Gareth, "Roedd ymdrech Joss yn fendigedig. Rydw i yn falch iawn ohono. Mae yn iach, yn hyderus ac yn ddisgybledig."

Meddai Joss am ei dad, "Mae Dad yn esiampl dda - mae'n rhoi cyngor da ac yn gwmni arbennig o ddiddorol. Roedd yn well dringo Ben Nevis gyntaf oherwydd roedd yn fwy anodd a doeddwn ni ddim yn gwybod beth oedd o'm blaen. Diolch dad."

Mae Joss eisiau bod yn warden yn y Parc Cenedlaethol wedi gorffen ei addysg. Pob Iwc iddo. Mae Gareth, Claire, Joss a Beci wedi dysgu Cymraeg ac i'w hedmygu. Rydym fel bro yn eu longyfarch yn fawr.

Bril Joss a bril Dad! Ymarfer gwerth chweil! Gorchest arbennig iawn, iawn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy