大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Aelodau cyntaf a fu'n cynnal gwasanaethau ar fferm cefngwyddel Maenygroes
Rhagfyr 2003
Wythnos dathlu 175 mlynedd ers sefydlu'r achos.

Maen-y-groes, man y grasau - hygar dwyn
Cysegr Duw a'i seintiau
Ar 么l oes hir o les谩u
Noswyliant ger ei seiliau.

J. Lloyd Jones

Dechreuwyd y dathlu trwy gynnal Gymanfa Draddodiadol a Modern. Breian Jones oedd wrth yr organ a Delyth Wyn Jones yn arwain. Gwnaeth y ddau eu gwaith yn egniol dros ben ac o ganlyniad cafwyd cymanfa i'w chofio.

Cafwyd eitem gan blant yr Ysgol Sul gyda Carys Williams yn cyfeilio. Hefyd eitem gan barti deulais y bobl ifanc gyda Gillian Hearn yn cyfeilio. Lea Owen Jones oedd yn croesawu. Derbyniwyd llythyr oddi wrth Miss Anwen Lloyd, llywydd y noson, yn ymddiheuro am ei habsenoldeb.

Brynhawn Mercher croesawodd Mrs Kathryn Thomas, llywydd y Chwiorydd, Mr Lyndon Lloyd i'r festri i s么n am Annibynwyr Sir Aberteifi. Daeth cynulleidfa dda i wrando arno. Mrs Gwenlyn Jones ac Esta Davies oedd yng ngofal y te.

Nos Iau daeth Mrs Nan Lewis, Peniel i'r Gymdeithas Ddiwylliadol. Roedd y cyfarfod arbennig yma yn rhan o ddathliadau 175 o flynyddoedd er sefydlu'r achos ym Maenygroes. Roedd y festri yn llawn a phawb wedi mwynhau wrth i Mrs Lewis s么n mewn manylder yn ei ffordd ddihafal arferol am ddigwyddiadau'r Diwygiad 1904. Ar ddiwedd y noson diolchwyd i Mrs Lewis gan y Parch. Nennog Thomas ac yna cafwyd lluniaeth ysgafn cyn i bawb ymadael.

Nos Wener oedd noson yr helfa drysor a drefnwyd gan Gareth Jones, Mumur y Coed. Aeth 14 o geir ar yr helfa. Bu yna gystadlu brwd cyn dod yn 么l i Dafarn Penrhiwgaled i gael gwybod pwy oedd wedi casglu mwyaf o drysorau a chael pryd blasus o fwyd. Yr enillwyr oedd Ian a Gwendoline, Tir Gwyn. Diolch i Gareth a'r teulu am y paratoi trwyadl a roddodd fwynhad i bawb a gymerodd ran.

Dydd Sul, a dyma gyrraedd y pinacl gyda pherfformiad y pasiant.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy