大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Arian Cymorth Busnes
Ebrill 2004
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Adran Datblygu Busnes Menter a Busnes wedi cynorthwyo dros 2,800 o unigolion yng Nghrymu.
Mae 2,250 o'r rhain yn siaradwyr Cymraeg ac mae'r ffigwr yn cynyddu'n gyflym. Mae'r patrwm hwn yn dilyn ffigyrau mwy cyffredinol sy'n honni mai yng Nghymru y gwelwyd yr ail gynnydd mwya' yn holl ranbarthau a gwledydd y DU o ran y nifer sy'n mentro mewn busnes.

Ym marn Alun Jones, prif weithredwr Menter a Busnes: "Mae 'na newid agwedd amlwg wedi bod tuag at fentro yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ymhlith siaradwyr Cymraeg."

Mae Menter a Busnes wedi bod yn ymgyrchu ers 15 mlynedd i gynyddu cyfraniad siaradwyr Cymraeg i economi Cymru. Er bod nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n mentro i fusnes bob amser yn tueddu i fod yn is na'r cyfartaledd, mae arwyddion pendant bellach fod siaradwyr Cymraeg yn deffro i oes entrepreneuriaeth, a hynny ar raddfa sylweddol. Meddai Alun Jones: "Does dim amheuaeth nad yw hyblygrwydd y cymorth sy'n cael ei gynnig gan brosiectau fel Potentia Menter a Busnes a'r Ffatri Fenter yn cyfrannu at hyder ac awydd cynyddol siaradwyr Cymraeg i ddechrau eu busnesau eu hunain."

Mae'r gwasanaeth a gynigir gan y prosiectau hyn yn amrywio o sgwrs anffurfiol yn trafod a datblygu syniad busnes, i gymorth arbenigol mewn unrhyw faes, e.e. marchnata, cyfrifeg, cymorth cyfreithiol yn ogystal 芒 chymorth ariannol mewn thai achosion.

Er bod Potentia yn cynorthwyo unrhyw un sy'n medru siarad Cymraeg, mae'r Ffatri Fenter yn helpu unrhyw un dan 40 oed sy'n dymuno rhoi cynnig ar syniadau busnes dros dro cyn penderfynu a ydynt am fynd amdani o ddifri.

Am sgwrs anffurfiol a manylion eich cydlynydd lleol cysylltwch 芒 Potentia Menter a Busnes 01248 672610, y Ffatri Fenter 01792 886300 neu Llion Pughe 01970 636296.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy