大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Y cyn-gapten Gareth Davies gyda mynydd Everest y tu cefn iddo Dyrchafaf fy Llygaid i'r Mynyddoedd
Mawrth 2009

Hanes 'mynd am w芒c' ar fynydd Everest gan y cyn-gapten Gareth Davies, Amoria, Caerwedros gynt, sy'n byw yn awr yn Swydd Efrog.

"Cyfarfu pedwar ar ddeg ohonom yng Nghathmandu (4,428') ar Fedi 29 y llynedd yn barod i gychwyn. Lakpa Lama, o gwmni Exodus, oedd yn arwain yr anturiaeth.

Ar 么l un diwrnod yn darparu a hurio siacedi manblu, fe godon ni'n gynnar er mwyn hedfan i Lukla (9,350'), sef taith hanner awr mewn awyren fach.

Rhaid oedd cyrraedd gyda'r wawr cyn i'r cymylau ymgasglu a chau'r maes glanio byr. Adeiladwyd y maes gan Edmund Hillary a'r Sherpas yn 1964 er mwyn dod 芒 nwyddau i mewn i'r Solu Khumbu ac adeiladu ysgol ac ysbyty yn yr ardal. Saith mlynedd yn 么l adeiladwyd rynwe galed ar lethr o ddeuddeg gradd, a nawr gall awyrennau ddisgyn lan y rhiw ac esgyn lawr y gwaered!

O'r man hwn does dim heol na l么n ceffyl-a-chart yn unman. Mae'n rhaid cario popeth ar hyd y llwybrau serth ar gefn porthwr, asyn, neu yak. Oherwydd hyn fe gawsom bedwar yak a'u ceidwad, a thri sherpa cyfarwydd 芒'r uchder mawr, i'n helpu.<.>

Dyw'r yaks ddim yn gallu byw o dan naw mil o droedfeddi oherwydd eu bod yn gordwymo. Creaduriaid ucheldiroedd Tibet fuon nhw drwy'r oesoedd.

Ar 么l noswaith yng nghwm y Dudh Kosi (8,700'), a chroesi sawl pont sigledig iawn, buom yn dringo'n galed i Namche Bazaar (11,300'), sef prif dref y Solu Khumbu. Mae marchnad brysur yno yn gwerthu nwyddau a gariwyd i lawr drwy'r bylchau uchel o Tibet.

Ar 么l diwrnod fan hyn, rhaid oedd dringo mil o droedfeddi a dod lawr drachefn i gysgu er mwyn i'r corff ddod yn gyfarwydd ag uchder y siwrnai fore trannoeth. Treuliwyd y ddau ddiwrnod nesaf mewn ardal alpaidd lle gwelson lawer o goed rhododendron a phlanhigion hardd eraill.

Yma hefyd y cyrhaeddon ni'r fynachlog Bwdist enwog Thyangboche (12,680'). Gellir gweld y mynyddoedd uchel i gyd o'r fynachlog hon, a chlywsom bod ymgyrchoedd dringo enwog Everest wedi cael eu bendithio yma gan y prif Lama cyn dechrau ar eu hanturiaethau.

Wedi cyrraedd Dingboche (14,270') gwelson ni lawer o gaeau bach iawn a chloddiau cerrig o'u hamgylch i'w cysgodi rhag y gwynt oer. Rhaid oedd gwisgo menyg a'r siacedi manblu nawr, a dyma'r cyfle olaf i ddefnyddio'r e卢bost - a hynny mewn sied oer lle'r oedd generadur symudol wedi'i gysylltu 芒 nifer o gelloedd trydan i yrru pedwar laptop.

Erbyn hyn roedd un o'r cwmni wedi cael ei daro'n wael iawn gan salwch mynydd. Bu'n rhaid ei gymryd yn 么1 lawr i Lukla a'i hedfan i'r ysbyty yn Kathmandu Dywedodd wrthon ni ar 么1 inni ddychwelyd mai'r peth gwaethaf ddigwyddodd iddo ar y daith yn 么l oedd gorfod croesi'r pontydd sigledig dros y Dudh Kosi ar gefn ceffyl!

Treuliwyd diwrnod arall o ymgynefino 芒'r uchder yn Dingboche cyn ymdrechu dringo mynydd cyfagos o'r enw Nangkartshang (17,000') a dod i lawr i gysgu. Roeddwn wedi cyrraedd 16,000 troedfedd ac yn yr heulwen hyfryd roeddwn yn gorffwys gydag un o'r sherpas oedd yn edrych ar fy 么1.

Dechreuais gymryd tabledi Diamox ddwywaith y dydd o'r noson hon i arbed salwch mynydd ac i gael gwell cwsg. Mae yna duedd i ddihuno'n sydyn yn yr uchder yma a theimlo eich bod yn mogi heb ocsigen, ac erbyn y bore does dim llawer o egni ar 么1 yn y corff, ac mae'n rhaid gwneud d诺r yn amlach.

Fe es i'r gwely am hanner awr wedi saith a chysgais yn braf, er i mi orfod codi am 9, 11, 2 a 5 o'r gloch i wneud d诺r. Ar 么1 hyn fe ddechreues i yfed mwy yn y bore - a dim cymaint yn y prynhawn!

Wrth fwrw ymlaen aethom heibio i fan sanctaidd ger marian gwaelod y rhewlif Khumbu lle mae baneri gwedddi bwdistaidd a charneddau wedi'u gosod i goffau y mynyddwyr a gollodd eu bywyd ar fynydd Everest.

Wedi noson yn Lobouche (16,175'), lle cafodd un arall o'r parti y salwch mynydd, dechreuon ni gyda'r wawr ger ochr rhewlif Khumbu a chyrraedd Gorak Shep (17,000'). Does neb i weld yma yn y gaeaf ond mynyddwyr caled. Ar 么1 tamed o ginio a gorffwys dechreuon ni ddringo Kala Pattar - yn bryderus.

O'r copa mae yna olygfa berffaith o Everest uwchben a thentiau'r gwersyll isaf dros fil o droedfeddi islaw. Ar 么1 cael fy nragio i fyny gan un o'r sherpas cyrhaeddais ar bwys y carnedd gopa tuag ugain munud ar 么1 y dringwyr ifancach. Roedd yn rhaid i mi gael ocsigen wedyn o fag triniaeth yr arweinydd, ond ar 么1 pum munud roeddwn wedi gwella ac yn tynnu lluniau yn yr awyr berffaith glir.

Kala Pattar (18,448') - dyma'r man uchaf i mi gyrraedd ar y mynydd. Yma, mae'r ocsigen hanner gymaint yn llai na'r hyn sydd yn awyr Sir Aberteifi, a'r pwysedd yn 528mbs.

I lawr a ni yn araf bach i Gorak Shep ac i mewn i'r bag cysgu am 4.30 wedi blino'n lan.

Drannoeth, dechrau gyda'r wawr am y tro diwethaf a mynd ar hyd rhewlif Khumbu i wersyll isaf Everest. Mae'n rhaid mynd yn fore cyn bod yr haul yn toddi'r rhew ac agor craciau. Ar yr ochrau, pan mae'r rhew yn toddi, bydd cerrig yn rowlio lawr y mynydd yn aml. Gadawyd pum llath rhwng pob person wrth inni fynd heibio'r llefydd mwyaf peryglus.

Cawsom dywydd da eto hyd Everest Base Camp (17,400'), a gweld pentref tentiau y mynyddwyr ar y rhew - fel camp yr Urdd yng Nghefn Cwrt!

Diwrnod emosiynol iawn i mi oedd hwn. Yr oeddwn wedi darllen gymaint am y mynydd, a chofio, pan oeddwn yn unarddeg oed, mynd i weld y ffilm 'The Ascent of Everest' mewn lliw yn haf 1953.

Dechrau'r siwrne lawr wedyn yn 么1 i Gorak Shep am dipyn o orffwys a lawr i Lobouche am y nos ar 么1 diwmod hir a blinedig iawn. Gymerodd hi dri dwrnod i ni gyrraedd Lukla, cyn hedfan i Kathmandu a chael parti ffarwel mawr yng ngwesty `Rum Doodle' Thamel."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy