大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Blas y Gwanwyn
Mai 2006
Rhannwch flas y gwanwyn gyda Nan Humphreys sy'n coginio gyda un o ffrwythau mwya unigryw'r ardd.

A oes gennych atgofion o flas unigryw y darten rhiwbob gynta'r gwanwyn? Ni fu'r ffrwyth yma'n rhyw boblogaidd yn ddiweddar ond erbyn hyn mae wedi dod yn ffasiynol iawn a chogyddion enwoca'r wlad yn ei ganmol i'r cymylau.

Mae rhiwbob yn cael ei alw'n un o'r 'super foods' y clywn gymaint amdanynt y dyddiau yma, ond syndod i mi'n ddiweddar oedd nad oedd bron un plentyn yn gallu ei adnabod pan ddangosodd Jamie Oliver enghraifft ohono i ddosbarth o blant.

Mae hefyd yn fuddiol i'n cyrff gan ei fod yn cynnwys llawer o ffibr, fitamin C, calsiwm, magnesiwm a haearn. Eto'i gyd dim and deg calori sydd mewn coesyn! Dyw erioed wedi bod mor ffasiynol yn 么l y Sais i 'think pink'!

Beth am drio'r canlynol yn defnyddio rhiwbob?

Pysgod gyda Saws Rhiwbob

Byddwch angen:

2 fecryll wedi eu glanhau neu un pwys o eog neu frithyll
ychydig o seidr neu sudd lemwn
halen a phupur
un owns o fenyn

Rhowch y pysgod mewn desgl gyda halen a phupur arno, wedyn sudd lemon neu seidr. Torrwch y menyn yn ddarnau bach a'i roi drosto. Rhowch gaead arno a'i roi yn y ffwrn gwres 180掳C neu 4 Nwy am tua hanner awr. Tra bo'r pysgod yn y ffwrn gwnewch y saws. Bydd arnoch angen:

1/2 pwys rhiwbob wedi ei dorri'n f芒n
1 /4 peint seidr
ychydig o sudd lemwn
ychydig o nutmeg wedi ei falu
2 llond llwy fwrdd siwgr brown

Rhowch y cynhwysion uchod mewn sosban a'i mudferwi am tua ugain munud - gweiniwch y pysgod gyda'r saws drosto.

Pwdin hyfryd a syml iawn yw Syllabub Rhiwbob. Dyna fydd arnoch angen:

1/2 pwys o rhiwbob wedi ei ferwi nes iddo dorri lawr yn dda
1/4 peint o hufen wedi ei chwipio
1/4 peint cwstard (rwy'n defnyddio tin parod er mwyn hwylustod)
un twb bychan o iogwrt plaen neu iogwrt m锚l
2 llond llwy fwrdd o siwgr ychydig o 'stem ginger'

Ar 么l i'r rhiwbob ferwi ychwanegwch y siwgr iddo a'i adael i oeri. Rhowch yr hufen mewn bowlen ac ychwanegwch y cwstard a'r iogwrt iddo, wedyn yr ychydig sinsr wedi ei falu'n f芒n. Mae'n edrych yn ddeniadol os gweinir mewn gwydrau gwin, gan ddechrau gyda rhiwbob wedyn yr hufen. Addurnwch gyda darn o lemwn, helm neu siocled wedi ei falu.

Erthygl gan Nan Humphreys


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy