大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
llun o  ffermwyr ifanc Caerwedros Caerwedros ar y Brig
Rhagfyr 2007
Mae C.Ff.I. Caerwedros wedi cael tymor yn llawn bwrlwm ac yn llawn llwyddiant unwaith eto.

Fe aethom i orsaf yr heddlu yn Aberystwyth ar y cyntaf o Hydref. Fe gafwyd taith hwylus o amgylch yr adeilad, gwelsom nifer o bethau diddorol gan gynnwys moduron yr heddlu, y camer芒u CCTV, y celloedd a thrin a thrafod y peryglon o gam-drin cyffuriau. Fe wnaeth pawb fwynhau ac fe alwon yn McDonalds am swper ar y ffordd adref.

Cynhaliwyd cwrdd diolchgarwch ar y 15fed o Hydref yng Nghapel y Bryn. Hoffwn ddiolch i'r Parchedig Pinion Jones am ymuno 芒 ni yn y gwasanaeth; cawsom bregeth diddorol iawn. Diolch hefyd i'r aelodau a wnaeth gymryd rhan ynddo.

Cafodd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus Cymraeg ei gynnal yn Felinfach ar y 9fed a'r l0fed o Hydref. Yn y gystadleuaeth 14 oed neu iau, fe ddaeth Caerwedros C, sef cadeirydd Rhiannon a darllenwyr Sarah a Heulwen, yn ail fel t卯m a daeth Caerwedros B, sef cadeirydd Ll欧r a darllenwyr Ceirian a Meilir, yn drydydd fel t卯m. Hefyd yn cystadlu roedd Caerwedros A, cadeirydd Emma a darllenwyr Caryl a Sioned.

Yn y gystadleuaeth 16 oed neu iau, fe ddaeth Elliw yn gydradd trydydd fel siaradwr, fe ddaeth Caerwedros B, sef cadeirydd Lona, siaradwr Elliw a diolchydd Sarah, yn bedwerydd fel t卯m. Hefyd yn cystadlu roedd Caerwedros A, cadeirydd Sam, siaradwr Morys a diolchydd Bleddyn. Yn cystadlu yn adran 26 oed neu iau oedd cadeirydd Trystan, cynigydd Teleri a gwrthwynebydd Lowri. Ar ddiwedd y gystadleuaeth fe ddaeth C.Ff.I. Caerwedros yn bedwerydd. Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu.

Yng nghystadleuaeth chwaraeon dan do y sir fe ddaeth y clwb yn gydradd chweched allan o 20 clwb. Llongyfarchiadau i'r aelodau a wnaeth gymryd rhan ynddo, yn enwedig i Dafydd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth tennis bwrdd. Da iawn.

Cafodd clwb Caerwedros lwyddiant mawr yn Eisteddfod y Sir yn ddiweddar. Fe enillwyd yr eisteddfod am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gyda 84 o farciau! Yn ennill y wobr gyntaf oedd y parti cerdd dant, Teleri a Lowri yn y gystadleuaeth llefaru, Llun o Trystan a LowriCaryl yn yr unawd cerdd dant, yr ensemble lleisiol, Lowri a Trystan yn y deuawd doniol a Lowri yn y stori fer. Hefyd cawsom yr ail wobr gyda'r meimio i gerddoriaeth, Lona yn yr unawd 16 neu iau a'r unawd cerdd dant, y parti llefaru, Carol am gyfansoddi darn o gerddoriaeth a Lowri yng nghystadleuaeth y gadair.

Enillwyd y drydydd safle gyda'r ymgom, Cerian yn yr unawd 13 neu iau, llyfr y trysorydd, Sarah am ysgrifennu ymsom, Katie Ann yn y gelf a rhaglen clwb y flwyddyn.

Fe enillodd y clwb darian y diweddar W. G. Hughes am gipio'r wobr gyntaf. Fe aeth yr ensemble lleisiol a'r deuawd doniol ymlaen i Eisteddfod Cymru yng Nghorwen ac fe ddaeth yr ensemble yn ail a Lowri a Trystan yn y deuawd doniol yn drydydd.

Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu a diolch yn fawr i bawb a fu'n ein dysgu ac yn ein cynorthwyo.

Hefyd llongyfarchiadau i Lea a enillodd barnu 诺yn tew yn y sir dan 26, a aeth ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth barnu 诺yn tew yn y Ffair Aeaf lle ddaeth yn 4ydd.

Byddwch yn barod am gnoc ar y drws ar y 17eg a'r 18fed o Rhagfyr oherwydd bydd y clwb yn dod o amgylch yn canu carolau.

  • Canlyniadau a lluniau o Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifainc 2007 yng Nghorwen.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy