大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Sister Llian Thomas B.N Portread y Mis
Mehefin 2009
Portread o Llain Thomas B.N o Feulah sy'n gweithio yn uned canr y 'Teenage Cancer Trust' yng Nghaerdydd.

Plentyn hynaf Huw a Janet Thomas, Bro Mebyd yw Llian, ac mae'n chwaer i Delmi (sy'n gweithio fel ymchwilydd ym myd y cyfryngau). Mae Llian wedi dilyn yn 么l traed ei mam ac wedi gwneud yn dda iawn ym myd nyrsio.

Y llynedd cafodd ei dewis i fod yn Sister mewn uned yn yr adran arbenigol newydd sy'n trin cancr yn Ysbyty'r Waun yng Nghaerdydd `Y Teenage Cancer Trust Unit' - yr unig un yng Nghymru.

Mynychodd Llian Ysgol Beulah, gan fynd oddi yno i Ysgol Dyffryn Teifi ac yna i Goleg Prifysgol Abertawe i ddilyn cwrs nyrsio. Cafodd radd Baglor mewn Nyrsio.

Bu'n gweithio yn ysbytai Abertawe ar ward 11, y ward Haematoleg, lle roedd yn gofalu am gleifion oedd yn dioddef o wahanol fathau o gancr - leukaemia, lymphoma, myloma. Pobl oedd yn cael cemotherapi a radiotherapi. Ar y pryd roedd Ward 11 chleifion meddygol hefyd.

Roedd diddordeb Llian mewn gweithio yn Haematoleg yn deillio ers gweld rhaglen ar y teledu am ferch ifanc a leukaemia adeg roedd yn yr ysgol.

Cafodd brofiad ar wardiau eraill ond n么l i Ward 11 y dewisodd fynd. Ar 么1 pedair blynedd yn Abertawe symudodd i Ysbyty'r Waun Caerdydd. Yno bu'n gweithio yn yr Uned Gofal Dwys. Cafodd ddyrchafiad yn Senior Staff Nyrs, ac yna'n arweinydd tim ar yr Uned Asesu Feddygol.

Yn Ebrill 2008 cafodd swydd fel Sister Iau i'r uned Gancr newydd oedd yn cael ei sefydlu yn Ysbyty'r Waun ar gyfer pobl ifainc rhwng 14 a 24 oed. Roedd Llian yn rhan o'r tim sefydlodd yr Uned a agorwyd ym Mai 2009 - efallai eich bod wedi ei gweld ar y teledu ar ddiwrnod yr agoriad.

Mae Llian yn ddirprwy reolwr ar y Ward ac felly yn gyfrifol am y cleifion a'r nyrsys eraill. Hi fydd yn rhoi cemotherapi a cyffuriau eraill i'r cleifion. Mae wedi mynychu cyrsiau ychwanegol ar drin cancr ers graddio.

Elusen yw'r `Teenage Cancer Trust Unit'. Mae dau lawr i'r Uned - wyth gwely ar y llawr gwaelod, ac yna uned ddydd ac adran gymdeithasol ar y llofft, lie ceir cegin, cadeiriau esmwyth, teledu, cyfrifiadur, bwrdd i chwarae snwcer a.y.y.b. Anogir y cleifion i wisgo eu dillad eu hunain, a disgwylir iddynt cael eu bwyd o amgylch y bwrdd gyda'i gilydd fel teulu.

Canolbwyntir ar gadw'r cleifior yn brysur. Cant gyfle i gario ymlaen a'u haddysg. Caiff y cleifion gemotherapi a radiotherapi yma a gallant fod yn yr Uned o fisoedd i fyny i ddwy flynedd. Mae Llian yn ferch ifanc sydd wed gwneud yn dda iawn yn ei maes. Rydym yn ymfalchio yn ei hymroddiad o weithio gyda dioddefwyr o afiechyd creulon. Dymunwn yn dda iddi yn y gwaith arloesol a phwysig mae'r Uned arbennig yma yn ei gyflawni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy