大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Cwch gwenyn Byd heb wenyn byd heb bobl
Gorffennaf 2008
Erthygl gan J Lloyd Jones am argyfwng ar wenynwyr yng Nghymru.
Byd heb Wenyn - byd heb bobl. Dyna ddywedodd Albert Einstein tua can mlynedd yn 么l.

'Petai gwenyn yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear, yna dim ond pedair mlynedd fyddai gan yr hil ddynol, a phob anifail arall, i fodoli ar y ddaear.'

Mae'n amheus a yw proffwydoliaeth Einstein yn hollol gywir, ond mae llawer o sylwedd yn ei osodiad.

Term poblogaidd heddiw yw 'argyfwng' - argyfwng ariannol, argyfwng bwyd ar draws y byd, argyfwng yn y farchnad tai ayyb.

Mae'n argyfwng hefyd ar y gwenwynwyr, maent wedi dioddef colledion difrifol ers dechrau'r ddegawd.

Ers dechrau'r flwyddyn hon mae dros 30 y cant o'r gwenyn yn America wedi eu colli, ac yn Ffrainc, 60 y cant, ac mae'r colledion yr un mor ddifrifol yng Nghymru ac ar yr ardaloedd hyn, mae'n broblem fyd-eang.

Mae amryw o resymau y tu cefn i'r broblem - ffermio modern a mwy o ddefnyddio chwistrelli pla (pesticides), y tymheredd yn codi dros y byd, ac yn sgil hynny clefydau newydd yn datblygu ac yn lledaenu, yn bennaf y chwilen Faroa ddaeth i fewn i Brydain dros ugain mlynedd yn 么l.

Am rhai blynyddoedd bu'r gwenynwyr yn medru cadw'r Faroa o dan reolaeth trwy roi cyffuriau arbennig yn y cychod gwenyn, ond yn raddol mae'r chwilen wedi datblygu gwrthsafiad yn erbyn y cyffuriau hyn.

Pam mae'r gwenyn mor angenrheidiol? Maent yn cynhyrchu m锚l, ond yn llawer pwysicach, maent yn croesbeillio ffrwythau a llysiau a phlanhigion a blodau sydd yn fwyd i adar ac anifeiliaid.

Mae'r clefydau eisoes wedi difa'r gwenyn oedd yn byw yn wyllt yn y coed a nenfwd tai, ac mae hynny yn golygu bod llai o wenyn ar gael i beillio ffrwythau ayyb. Mae'n amlwg felly bod y gwenyn heddiw yn ddibynnol ar ddyn a gwyddoniaeth i oroesi yn y dyfodol.

Beth yw'r ateb? Rhai misoedd yn 么l gwnaeth cymdeithasau'r gwenynwyr gais am grantiau o 8 miliwn o bunnoedd dros gyfnod o pum mlynedd i wneud gwaith ymchwil a datblygu cyffuriau newydd i ddelio 芒'r clefydau, ond llugoer fu ymateb y llywodraeth.

Mae'n wir eu bod yn cyfrannu 拢200,000 y flwyddyn eisoes, ond mae hyn yn annigonol i ddelio 芒'r problemau fel mae heddiw.

Ond yn ystod y mis diwethaf cafwyd datganiad bod y Llywodraeth a Cynulliad Cymru ar y cyd, yn mynd i ddatblygu strategaeth i ddelio 芒'r broblem.

Yn y datganiad dywedodd Elin Jones, y gweinidog, ei bod yn ymwybodol o'r problemau, ac am yr angen i ddelio 芒 hwynt.

Cafwyd datganiad hefyd bod Cymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro wedi derbyn grant o 拢5,000 o gronfa'r Loteri i sefydlu cynlluniau i fridio brenhinesau yn artiffisial. Os fydd y project hwn yn llwyddiannus, bydd yn gymorth i wella'r sefyllfa ac i adennill yr hyn sydd eisoes wedi ei golli.

Gwraidd llawer o broblemau heddiw yw 'globaleiddio'. Os fydd straen newydd o annwyd wedi datblygu yn y Dwyrain Pell, mewn rhai dyddiau bydd pobl ym Mhrydain yn dioddef o'r un annwyd. Achos hyn yw'r holl deithio yn 么l ac ymlaen ar hyd y byd, ac mae'r un peth yn wir am lawer o glefydau'r gwenyn.

Bydd rhaid i bawb, hwyr neu'n hwyrach, i roi 'lleol' yn flaenaf, yn arbennig am fod pris olew yn mynd tewy'r to.

Enghraifft da yw bod m锚l lleol yn llesol i drin clefydau megis y dwymyn wair, asma neu'r fogfa, a rhai clefydau'r croen megis ecsima. Y rheswm am hyn yw bod m锚l lleol yn cynnwys paill sydd wedi dod o'r un blodau 芒'r paill sydd yn hedfan yn yr awyr sydd yn achosi'r problemau.

Ac mae rhai yn dadlau bod bwyd wedi tyfu yn lleol yn fwy llesol. Dadl arall dros fwyd lleol yw milltiroedd bwyd. sef yr olew a ddefnyddir i gludo bwyd o bell.

Yn naturiol, ni fydd yr archfarchnadoedd nawr yn cytuno 芒'r damcaniaethau uchod, ond y ffaith yw bod yr hen r么d yn dal i droi."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy