Bues yn astudio dyddiadur y Capten R. F. Scott yn Ysgol Aberaeron (B1. 11) a gwnaeth ei ddarllen argraff fawr arnaf. Dwi ddim yn hoffi haul a thywod.
Cefais gwmni Megan Hayes o Aberaeron. Ac wedi i Peter Rees, fy nghefnder, ein hebrwng i Abertawe, bws i Heathrow ac awyren Iberia i Buenos Aires. Fe hedfanon ni lawr i Ushuaia yn nhalaith Tierra del Fuego. Ac yno roedd ein llong y Professor Molchanov wedi angori ac yn ein disgwyl ni gyda 42 arall i hwylio i'r Antarctig. Hen long ymchwil Rwseg ydoedd a drawodd fynydd i芒 ('growler') unwaith. Roedd arni 20 o griw o Rwsiaid gan gynnwys y capten, a 3 chogydd -un o'r Swistir, un o Sweden ac un o'r Iwcrain.
Roedd gennym gaban en-suite oddi tan bont y llong a gwelwn y gorwel a'r tywydd - o flaen neb! Ar ein cyfer hefyd roedd lolfa a bar, ffreutur a hawl i gerdded y deciau ac ymweld a'r bridge. A'r bwyd - wel, blasus a digon ohono gyda bwydlen gig, pysgod a llysieuol.
Allan 芒 ni i'r m么r mawr! Allan i'r Drake Passage - tymhestlog ac annifyr! Bues yn s芒l iawn - a'r unig dro hefyd! A phle mae dyfroedd De'r Atlantig a dyfroedd cefnfor yr Antarctig yn cyfarfod - yno mae'r cril yn byw. Math ar greadur bychan ydyw gyda gwawr binc pan fydd heidiau mewn un man. Ac ar hyd y llinell yma mae'r morfilod, dolffiniaid, adar a physgod eraill yn ymgasglu gan lyncu ychydig, hyd at gannoedd o dunelli o'r cril ar y tro.
Cyrraedd ynysoedd yr Islas Malvinas ac angori ger Yr Ynys Newydd am 04.30 y bore. Roedd neb yn byw yno, ond am filoedd ar filoedd o bengwiniaid (rock hoppers a gentoo.) Gwelsom filoedd o adar gwas y weilgi (albatros), gwyddau a'r boda.
Ymlaen i Ship's Bay a enwid ar 么l llongddrylliad. Roedd dau naturiaethiwr wedi prynu'r darn tir. Angorwyd ger Ynys Carcass lle gwelwyd fferm fechan o ddefaid a dwy fuwch a lloi. Nid oedd coeden i'w gweld yn un man ond wrth agosau at Port Stanley (y brifddinas) ar y brif ynys gwelwn rai coed wedi'u plannu ymhlith y tai lliwgar - gyda'u toeau o bob lliw dan yr haul. Yno gwelsom yr amgueddfa, yr eglwys gadeiriol a'r bwa o esgyrn g锚n morfil, a chofgolofnau y rhyfel.
Roedd y boblogaeth yn groesawgar iawn a thwristiaeth yn amlwg ac yn bwysig iawn i'r economi.
Mae Ynys South Georgia dan reolaeth Prydain fel y Malvinas ond bellach dim ond gorsaf wyddonol a siop a gedwir yno - am 2 flynedd ar y tro yn unig i'r gwyddonwyr. Mae'r gorsafoedd hela morfilod yn sbwriel rhydlyd bellach a does neb yn byw yno'n barhaol ond 750,000 o barau pengwiniaid brenhinol. A'r drewdod
a'r s诺n yn annioddefol! Mae rhain yn dri chwarter maint y pengwiniaid ymherodrol. Ar y traethau o dywod du folcanig roedd y morloi ffwr - rhai ffyrnig ofnadwy. Canwyd seiren pe buasai'r tywydd yn newid yn sydyn ac i ddychwelyd i'r llong ar frys.
Efallai mai'r rhan fwyaf difyr oedd dilyn rhan o lwybr Ernest Henry Shackleton. Caewyd ei long yr Endeavour mewn i芒 trwchus, a suddodd maes o law. Llusgwyd 3 chwch dros yr i芒 cyn i'r 4 cryfaf rwyfo i Ynys yr Eliffant. Rhaid oedd saethu a bwyta rhai o'r c诺n a rhaid oedd difa Mrs Chippy y gath. Ond cyrhaeddodd y cychod ar ochr anghywir ynys South Georgia - taith o 800 milltir. Rhaid oedd dringo dros dir uchel, rhew ac eira i gyrraedd Grytuiken [Llyncodd pawb o'r teithwyr ddracht o rym er cofio Shackleton (y `boss') - y dewraf o ddynion.]
Gwnaeth Shackleton bedair taith i'r Antarctig, bu farw yn 1922 a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn nhir South Georgia. Gwelid geiriau Robert Browning - ar ei gofeb - `Daliaf y dylai dyn ymdrechu i'w eithaf tuag at wobr osodedig uchaf bywyd.'
Ar y llong cedwid rhestr o anifeiliaid ac adar a welwyd gan y teithwyr. Yn eu plith roedd gwas y weilgi (albatross), morfilod pigfain (minci) a chefn grwn a phengwiniaid. Prif fwyd y pengwiniaid yw'r cril pinc ac mae'r dom drewllyd hefyd yn binc ac o dan draed ymhobman. Gwelwyd saith math ohonynt ar ynys y Coroniaid.
Aed i'r ynysoedd bychain mewn cychod rwber (Zodiacs) gan wneud 6 thaith. Dyna oedd y fantais fawr o hwylio mewn llong gymharol fechan a allai fynd i mewn i'r cilfachau ac yn agos i'r traethau. Gwelsom amrywiaeth eang o fynyddoedd i芒 - rhai gwastad o'r silffoedd i芒 a rhai pigfain a'r rhewlifoedd. Yr un mwyaf a welwyd erioed oedd un 32 cm wrth 30 cm - wedi ei fesur gan sonar.
Man gwyn man draw oedd is gyfandir yr Antarctig oherwydd cyffwrdd 芒 phenrhyn ohono a wnaethom ni. Yr oedd yn brydferth, yn unigryw, ac yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt mewn amgylchedd o lendid a chadwraeth. Eto ynys South Georgia roddodd y wefr fwyaf oherwydd ei hanes, yr amgylchedd a'i hamrywiaeth.
Yn yr haf ceir dwy awr o lwydni ynghanol golau dydd parhaol; mae'r gaeaf i'r gwrthwyneb. [Cofier mai'n gaeaf ni yw ei haf hwy.]
Heddiw mae 43 o wledydd wedi llofnodi Cytundeb yr Antarctig. Mae 14 erthygl ynddo mewn pedair iaith - Saesneg, Ffrangeg, Rwseg a Sbaeneg. Fe' i cedwir yn Archifdy Genedlaethol yr U.D.A.
Yr Antarctig yw'r lle ola yn y byd sydd mewn cyflwr dilychwin. Rhaid gwarchod a chadw'r glendid rhag trachwant ac ysfa y ddynoliaeth am elw materol - er lles yr yfory.
Prydain oedd y cyntaf i osod troed barhaol ar yr Antarctig (yn 1908). Wedyn dilynodd Seland Newydd (1923), Ffrainc (1924), Awstralia (1930), Norwy (1939), Chile (1940) a'r Ariannin yn 1943.
Hoffwn ddychwelyd i'r Antarctig yn y dyfodol - gan obeithio y bydd ei gyflwr yn parhau'n ddilychwin. Ond mae gennyf fy amheuon. Gwerth yr arian oedd bob ceiniog! Beth am ei mentro hi!