大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Criw Panomeim C. Ff.I Troedyraur Clwb ffermwyr ifanc Troedyraur
Ebrill 2003

Dechreuodd y clwb y flwyddyn newydd trwy fynychu sosial clwb Llanddeiniol a oedd yn dathlu 60 mlynedd, yn Neuadd Llannon. Mwynhaodd yr aelodau hwyl y ddathlu.

Gwnaeth y clwb gystadlu yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus y Sir yn Felinfach yn ystod mis Ionawr. Cafwyd tim yn adran dan 16 a dan 21 oed.

Daeth Anne Williams, un o aelodau'r clwb adre o Goleg Caerdydd am benwythnos i fynychu a dweud gair yng nghinio blynyddol Sioe Aberteifi. Roedd Anne yn frenhines y sioe y llynedd a mwynhaodd y cinio yn Nhrewern.

Cafodd trip o'r sir ei drefnu i g锚m rygbi LIanelli yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Strade ar ddechrau mis Chwefror a mwynhawyd y g锚m yn fawr gyda Llanelli yn ennill.

Mae'r clwb wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi ac yn ymarfer ar gyfer cystadleuaeth adloniant y Sir, sef y pantomeim. Buom yn ffodus i gael Mrs Owenna Davies o Ffostrasol i ysgrifennu'r sgript a'i gynhyrchu. Mrs Wendy Organ oedd yn gyfrifol am y gerddoriaeth. Buodd arweinyddion y clwb yn rhoi help llaw a mawr yw ein diolch i bawb am eu gwaith.

Cafwyd llwyddiant wrth gael ein dyfarnu yn y drydedd safle ar y nos Wener. Roedd hyn yn dipyn o gamp i ni gan nad oeddwn wedi cystadlu yn y gystadleuaeth ers rhyw ddeg mlynedd.

Cafodd y clwb wahoddiad i ymuno 芒 chlwb Penparc yn Theatr Mwldan i berfformio'r pantomeim o flaen cynulleidfa niferus. Trefnodd y clwb noson i berfformio'r pantomeim yn neuadd Ysgol Dyffryn Teifi a gwahoddwyd clwb Brynherbert i ymuno 芒 ni. Roedd y neuadd yn llawn a braf oedd gweld cymaint o bobl yno yn gyn-aelodau a ffrindiau. Mrs Lenora Davies oedd llywydd y noson a chafwyd araith pwrpasol ganddi am ei hamser fel aelod o glwb Troedyraur. Aeth ymlaen i gynrychioli'r clwb yn forwyn, brenhines a chadeiryddes y Sir.

Mwynhawyd noson o sgio yn Llangrannog ar ddechrau mis Mawrth gyda rhai yn mentro i dop y llethr sgio. Cafwyd cawl a thwmpath i ddathlu Gwyl Ddewi yng Nghaffi Tan-y-groes ar Fawrth l0fed a gwahoddwyd clwb Bryngwyn atom. Mwynhawyd cawl blasus ac wedyn ymunodd pawb i ddawnsio twmpath yng ngofal Mansel, arweinydd y clwb.

Trefnwyd bws rhwng clybiau Penparc, Llandygwydd, Bryngwyn a Throedyraur i Westy'r Marine yn Aberystwyth i ddawns dewis swyddogion. Mwynhaodd pawb, a braf oedd gweld cymaint yno. Llongyfarchiadau i'r swyddogion newydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy