大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Glan Rees gyda chadair Eisteddfod yr Urdd 2010 Gweledigaeth Archdderwydd ar gof
Mai 2010
Roedd gweledigaeth y diweddar Dic Jones yn allweddol ar gyfer creu cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010.

Teulu'r diweddar Archdderwydd Dic Jones sy'n rhoi cadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Ceredigion eleni a hynny er cof amdano.

Ychydig wythnosau cyn ei farw bu'r Archdderwydd yn trafod ei weledigaeth ar gyfer y gadair gyda'r gwneuthurwr a ffrind mawr iddo, Glan Rees.

Bellach, mae'r gadair wedi ei chreu a gweledigaeth yr Archdderwydd yn amlwg mewn cyfres o ddelweddau trawiadol.

"Roedd Dic yn bendant iawn mai cadair syml, fodern ddylai hon fod," medd Glan sy'n byw yn Nhreftraeth ac yn gyn-brifathro Ysgol Bro Ingli.

"Ar yr olwg gyntaf, mae hon yn gadair syml ond o edrych yn fwy gofalus, fe welwch ddelweddau cryf a phendant iawn; ffrwyth sgwrs gyda Dic, Jean ei wraig a minnau rhyw fis cyn i ni golli Dic.

"Y ddelwedd amlycaf yw'r un o ffenestr - sydd wedi ei wneud o wydr lliw - a honno'n edrych i'r dyfodol. Mae'r gwydr yn dangos delweddau amaethyddol, megis tywysen yn ogystal ag arfordir Sir Aberteifi, oedd oll mor bwysig i Dic.

"Gofynnodd Dic i mi ddangos y dywysen wedi ei phlygu, a hynny i ddangos ei barch mawr ef at y beirdd ifanc. Roedd yn aml yn dweud wrtha i gymaint o barch yr oedd ganddo at y beirdd ifanc a'r hyn y maent yn ei gyflawni. Ac ar gefn y gadair, mae cwpled o eiddo Dic o'i gerdd, Y Gamp. Mynnodd mai ar gefn y gadair y byddai'r geiriau yma ac nid ar y blaen,' meddai Glan oedd yn mynychu'r un Aelwyd yr Urdd a Dic a Jean yn Aberporth dan arweinyddiaeth Mr a Mrs Tegryn Davies.

'Mae'r gadair wedi ei gwneud o barch a chariad at Dic,' medd Jean, gweddw Dic Jones. 'Roedden ni'n ffodus fod Glan wedi dod i'n gweld pan ddaeth e. Roedd Dic yn ei bethe ac fe gawsom ni drafod y steil a'r delweddau a dwi'n gwybod y bydde Dic wrth ei fodd efo'r gadair orffenedig.'

Fe roddir y gadair am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 10011inell ar y testun, Tonnau, ac fe gynhelir y seremoni ddydd lau, 3 Mehefin 2010 am 2.30 pm. Y beirniad yw Gwenallt Llwyd Ifan a Fflur Dafydd a Meistr y Ddefod fydd Gareth James. Bydd wyrion Dic Jones, Bedwyr, Peredur, ac Ynyr Lloyd Jones hefyd yn rhan o'r seremoni.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i deulu'r diweddar Archdderwydd Dic Jones am roddi'r gadair yma i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2010 er cof amdano," medd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru.

"Mae'n braf ein bod yn gallu dathlu cyfraniad Dic Jones i'w ardal a'i wlad tra bod yr Eisteddfod yn y fro oedd yn golygu cymaint iddo. Dic Jones yw'r unig un i ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol a braf fydd cydnabod y gamp honno ymysg yr anrhydeddau eraill a ddaeth i'w ran fel bardd yn Llannerchaeron fis Mehefin."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy