大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Doreen Jones Llwyddiant yn chwarae bowlio i'r Deillion
Mehefin 2004
Roedd Doreen Jones (Frongoch, Llangrannog) a gynt o'r Ship and Anchor, yn dioddef o fyrder golwg yn ystod ei blynyddoedd cynnar.


Eisteddai yn rhes flaen y dosbarth yn ysgol Pontgarreg ond ni welai y bwrdd du yn eglur. Ond mewn gwers rifyddeg pen roedd gyda'r cyntaf yn ateb - cymhwyster sydd yn nodweddiadol o'i theulu. Ond wedi triniaeth ar ei llygaid oddeutu'r deugain oed collodd ei golwg yn gyfan. Serch hynny, mae wedi byw bywyd llawn. Mae'n briod 芒 Tom ac mae ganddynt ddau o blant, Joy a Haydn.

Nid yw yn syndod i'r rhai sydd yn ei hadnabod oherwydd mae ei diddordeb mewn chwaraeon yn heintus. Mae'n ffan brwdfrydig o bob chwarae - ond am griced. Bydd yn dilyn p锚l-droed, rygbi, rasys ceffylau ac yn enwedig rasys ceir cyflym.

Rhoddodd ymgais ar saethu at dargedu gyda chryn lwyddiant ond bellach ei ffefryn yw bowlio - dan do ac yn yr awyr agored. Radio yw'r cyfrwng sy'n ei chyffroi ac yn rhoi y pleser mwyaf iddi. Mae'n gwmni agos iddi ond mae'n gwrando ar raglenni teledu a Tom yn ychwanegu sylwadau pan fydd eisiau. Radio Ceredigion yw'r ffefryn yn enwedig 'Yr Awr Gyfarchion' a rhaglenni'r bore.

Fel y gwelwch wrth y tlysau mae Doreen wedi gwneud enw ei hun wrth ennill llawer o lawryfon dros hyd a lled Cymru. Joy, ei merch, yw ei hyfforddwr trwyddedig. Gosodir corden i lawer dros ganol pob rinc a bydd Joy yn ei chyfarwyddo trwy ddefnyddio trwy siarad, ffigurau wyneb cloc a'i wyneb ben i wared ymhen draw y rinc. Er enghraifft, a'r deuddeg yn wynebu Doreen, caiff y sylw -
"Hanner llath am naw o'r gloch."
"Anela 'run nesa at bedwar."
"Ymgais dda, ond braidd yn fyr i'r un ar ddeg."
"Llathed o'r jac, mwy o gryfder i'r un nesaf - am bump o'r gloch."

Mae Doreen yn teithio i Aberdaugleddau i ymarfer ac i dderbyn hyfforddiant. Yn anffodus, nid oes cyfleusterau i'r anabl yng Ngheredigion ar gyfer chwarae bowlio.

Ac wedi iddi ennill medal dros Gymru gyfan ym Mhort Talbot yn ystod llynedd - mae ganddi'r hawl bellach i gystadlu yn Skegness dros Brydain Fawr a hawl i fynd i Durban, De'r Affrig i chwarae ym mhencampwriaeth y byd yn 2005.

Estynnwn ein dymuniadau da i Doreen a'n hedmygedd ohoni wrth iddi gyflawni gymaint yn ei maes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy