大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Organ bib Capel Annibynnol y Towyn, Cei Newydd (1909-2009). Yn Gant Oed!
Gorffennaf 2009
Hanes dathliad canmlwyddiant yr Organ Fawr yng Nghapel Towyn, Cei Newydd.

Bu yn bnawn o lawen chwedl yng Nghapel Towyn, Cei Newydd ddydd Sul l4eg Mehefin 2009 - diwrnod dathlu canmlwyddiant yr Organ Fawr fel cyfrwng cyfoethogi'r g芒n a'r addoliad, gan gyplysu un oedd yn allweddol i'r dathlu, sef y diweddar Ddoctor Caradog Roberts, Rhosllannerchrugog, a gynllniodd yr organ.

Daeth tyrfa luosog iawn ynghyd, a braf oedd gweld llu o aelodau a oedd wedi eu codi i fyny yng Nghapel Towyn wedi teithio milltiroedd lawer i gadw oed yn yr oedfa arbennig a hanesyddol hon.

Darllenwyd o'r ysgrythur gan yr Athro Tecwyn Jones i ddechrau, ac yna cafwyd gweddi fer gan Ithela Evans. Yn dilyn hyn cafwyd gair o groeso a hanes yr organ gan Ithela Evans, Ysgrifennydd y Capel.

Clywyd canu gwefreiddiol gan y soprano Mari Ffion Williams a'r tenor Gareth Huw John,ac roedd aelodau'r gynulleidfa wedi eu hudo gan eu perfformiadau.

Mae'r ddau wedi cyrraedd yr uchelfannau ym myd cerddoriaeth. Braf oedd cael eu cwmni yn yr oedfa.

Bum yn ddigon ffodus i gael cwmni a gwasanaeth y Deon Gwlad, Chris Bolton fel ein horganydd gwadd. Cawsom ddatganiad a oedd yn dangos cyfoeth yr organ trwy gyfrwng cerddoriaeth o gyfnod Handel hyd at y presennol, gydag aelodau'r gynulleidfa wrth eu bodd.

Gwnaeth Jon Meirion Jones, Capel y Wig, gyfarch yr achlysur gyda thribannau a chyflwynodd argraffiad arbennig ohonynt wedi'u fframio i Gapel Towyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy