Dros hanner canrif yn 么l, fe adawodd ein teulu Glynarthen, fy nhad yn newid ei swydd o brifathro yn Ysgol y Glyn i gymryd swydd newydd fel darlithydd yng ngholeg Wrecsam. Crwt pedwar ar ddeg oeddem i yn dechrau ar fy nhaith a oedd i mynd 芒 fi i ddarlithio a gweithio mewn llawer rhan o'r byd ac a oedd i ddibenu fel athro ym mhrifysgol Norwich.
0 dro i dro roedd cyfle i fynd n么i i'r Glyn - i gymanfa, i weld rhai o'r hen deuluoedd ac i gerdded ar hyd yr hen lwybrau. Ond beth oedd yr wyrion yn meddwl am y pentre bach lle cafodd tad-cu ei eni a'i godi - lle mor wahanol i'w cartref mewn tref yn Lloegr? Edrych yn gyntaf ar Ty'r Ysgol, yr ysgol a'r maes chwarae, y capel, ac yna lawr i'r bont a'r cyntaf i ddarganfod lle roedden wedi cerfio fy enw slawer dydd.
Wrth edrych ar y tai yn y pentre, roedd fawr wedi newid. Yr unig wahaniaeth er hanner canrif yn 么l oedd y Festri newydd yn lle yr hen un uwchben y stabal. Ond a oedd y pentre yr oedden i yn adnabod a'r pentre oedd yma nawr yr un peth? Roedd 'na swyddfa post o hyd, ond lle oedd yr holl grefftwyr? Drws nesa i'r post, brith gof am y cobler, nes lan Ifan Jones y maswn cerrig bedde a ffrind i bob plentyn yn y pentre a chodwr canu yn y capel. Powell y maswn a Davies y gof yn byw nes Ian.
Os oedd eisie saer roedd Noah Edwards yn Betws neu Tom Davies yn Sarnau ac yn y blaen.
Mwy anodd oedd dweud am y gymdeithas a'r awyrgylch yr adeg hynny ac a gafodd sut effaith arnaf i drwy fy oes. Pentref hollol Gymraeg a thrwy yr ysgol gyda Miss Jones, Miss Thomas a fy nhad ond Cymraeg oedd o'r dechrau i'r diwedd. Dylanwad y capel yn rhagori; cwrdd bob bore a nos Sul gyda'r Parchedig Hughes, Ysgol Sul yn y prynhawn gyda Mrs Hughes, ysgol g芒n yn yr hwyr gyda fy nhad, a chwrdd gweddi yn yr wythnos. Braint oedd cael dysgu tonic sol-ffa hefyd gyda Mrs Hughes.
Yn absenoldeb y teledu ac ychydig iawn o radio, roedd digon o amser i siarad o gylch y t芒n gyda ffrindie oedd yn galw gyda'r nos, neu fynd allan i swper i un o'r ffermydd gerllaw. Fy mhlentyndod hapus yn cynnwys rhedeg ar hyd y caeau, chwarae ger yr afon Dulais, fyny i Deiniol i fod gyda Tom amser godro, amser gwair, amser gosod a chodi tato, amser stacano - pob munud y gallen ni - a chael pryd gyda'r teulu cyn rhedeg adre; a allen i feddwl am sut ryddid i fy wyrion nawr?
Nid oedden yn meddwl fy mod yn edrych yn 么l drwy rose tinted spectacles wrth ddisgrifior pentref a'r gymdeithas Ile ces fy magu. Fe hoffen petai yn bosibl i'r wyrion gael yr un braint ac a gefais i.
Amser i fynd adre a phenderfynu a'i traeth Aberporth, Llangrannog, Penbryn neu Cwmtydu oedd i fod yfory - mae atyniad rhain yr un peth ac erioed.
Roy Davies