Sylwais fod cryn dipyn o s么n wedi bod am hanes hers Glynarthen yn nhudalennau'r Gambo dros y blynyddoedd diwethaf. Gwelais hanes yr hers am y tro cyntaf yn rhifyn Chwefror 1993 a oedd yn awgrymu fod diddordeb yn ei chael yn 么l i'r ardal. Yna yn rhifyn Mehefin 2005 gwelwyd yr hers yn ei gogoniant ar strydoedd Aberteifi ar Ddydd Sadwrn Barlys. A nawr yn rhifyn Gorffennaf eleni ceid s么n am ymweliad yr hers 芒 phentref Glynarthen a'i hymddangosiad ar raglen Wedi 7 ar S4C. Gwahanol iawn fu hanes hers Rhydlewis a oedd yn gwasanaethu Capeli Hawen, Twrgwyn, Coedybryn, Salem, Bryngwenith ac Eglwys Troedyraur.
N么l yn y saithdegau aeth y g诺r a minnau ar ymweliad i dde Lloegr i weld rhai o'i deulu ac ar y ffordd dalwyd ein sylw gan iet bur anghyffredin yn arwain at d欧 hyfryd. Yr oedd dwy ran i'r iet a'r ddwy yn cynnwys ffr芒m sgw芒r ac olwyn oddi mewn iddo. Wedi dychwelyd adref o'n taith, penderfynodd y g诺r y byddai'n ceisio efelychu'r model hwn.
Y cam nesaf oedd hysbyebu yn y Teifiseid am ddwy olwyn o faint addas. Er syndod cafwyd ateb ar unwaith i ddweud fod olwynion ar gael ar fferm yn Rhydlewis. Yno yn ein disgwyl yr oedd nid yn unig olwynion ond hers gyfan, mewn cyflwr truenus iawn. Nid oedd fawr o obaith i achub yr hers yn ei chyfanrwydd, ond prynwyd y pedair olwyn, y ddwy ffrynt yn llai o faint na'r cefn. Defnyddiwyd y ddwy fwyaf yn llwyddiannus i lunio iet drawiadol iawn er mwyn addurno bwthyn Blaentir ar riw Gogerddan.
Cafwyd un canlyniad anffodus serch hynny, pan aeth y bwthyn i ddwylo perchnogion di-Gymraeg a ysbrydolwyd i ail-enwi'r t欧 yn "Wheelgate Cottage" ar 么l yr iet. Ond tair blynedd yn 么l gwerthwyd y t欧 i Gymraes a benderfynodd adfer yr hen enw a fu'n sefyll am ddau gan mlynedd a dyna enw Blaentir i weld y tu allan unwaith eto. Y mae'r ddwy olwyn arall yn parhau yn ein meddiant ac mewn cyflwr da, yn well nag olwynion Blaentir, a oedd 芒'r pren yn pydru. Dyna'r cyfan sy'n weddill felly o'r hen hers a gludodd genedlaethau o bol Rhydlewis a'r cylch i'w gorffwysfan olaf.
Gan E.White
|