Gerrig milltir yng nghalendr y flwyddyn
"Dyna fe, os oedd Llanwnnen yn bell i'r asyn - roedd Ffair wenog ar gyfandir arall. Roedd dyddiadu'r ffeiriau yn gerrig milltir yng nghalendr y flwyddyn. Fel mae plant heddiw'n cofio dyddiadau fel Noson T芒n Gwyllt a Chalan Gaeaf, byddai pawb yn cofio dyddiadau'r ffeiriau.
Yn y gyfrol 'Ar Dafod Gwerin' gan Tegwyn Jones ceir rhigwm a gofnodwyd yn Llangeitho sy'n dweud
Ar fore Ffair Wenog
Daeth Penwen a llo
A honno'n llo fenyw
A dyna chi dro
Dywedais y Rhigwm wrth 'Jim Fronwen' a chefais ychwanegiad at y pedair llinell yn syth.
Edrychwyd hi wedyn
rhwng 12 ac un
Roedd 'offer cenhedlu'
Yn sownd wrth ei d**.
Nid dyma'n hollol eiriau Jim, ond 'does dim angen llawer o ddychymyg i arall eirio!
Aclysuron pwysig iawn oedd y ffeiriau ym myd amaethyddiaeth ac roedden nhw'n rhoi cyfle gwych i bawb gymdeithasu. I'r plant, byddai'r Ffair yn agoriad llygaid - ceid stondinau o bob math yn gwerthu 'sanau, gwlanenni, orennau, cawl ac afalau.
Deuai gwragedd o Gaerfyrddin i aros yng Ngwrtnewydd gyda chyflenwad o Rock a Bara Sinsir (Gnger Bread). Un peth am far sinsir y ffeiriau - nid oedd sinsir yddo! I'r plant, dyma beth oedd diwrnod i'w gofio. Fe gofia Mali, chwaer Jim Fronwen, am ei mam yn s么n am y ffair ac yn galw ymhob t欧 bron a chael pop a melysion.
Arfer a gysylltwyd a Ffair Wenog
Un arfer a gysylltwyd a Ffair Wenog oedd "CWRW". Dyma'r esboniad am y pen tost yn y dechrau. Dywed Cledlyn yn Hanes Plwyf Llanwenog "mynnid trwydded i werthu cwrw ymhob t欧 ymron ym Mhentref Drefach ac fe gyfrifid dyn yn gybydd oni alwai am Shwgaid' o ddiod ymhob un ohonynt. Geiriau cymeriad lleol oedd "O'ch chi ddim yn ddyn os o'ch chin pasio ty heb yfed gwydried o'u cwrw cartre "
Ychwanega'r Parch Goronwy Evans, mewn traethawd enillodd iddo wobr yn Eisteddfod Cwrtnewydd, fod un forwyn wedi cael shwgaid' yn ormod a bu rhaid i dri pherson ei chludo mewn whilbera' i gwthio i fyny rhiw Llanwenog - milltir o hyd - a draw heibio i Gwmsychbant. (Tybed a fydd diddordeb gyda Clwb Rhedeg Sam Helen neu Glwb Rygbi Llanybydder ddefnyddio hyn fel rhan o'u hymarfer cadw'n heini? Dim yr yfed, ond hwpo'r whilber Ian y rhiw).
Soniai y diweddar "Amy" Penpombren am "Fragu'r Cwrw". Byddai yn cyfeirio at ddau fath sef, Cwrw Canu a Chwrw Clatsho. Dywed Goronwy yn ei erthygl fod s么n am glatsho o flaen Tynporth ymhob Ffair - yn rhyfedd iawn, yr un rhai bob tro. Yn ychwanegol at y Cwrw Cartref deuai tafarnwyr o bell 芒 llond wagenni o gwrw.
Erbyn y flwyddyn 1910 fe ddaeth diwedd ar Ffair Wenog fel ffair anifeiliaid er iddi barhau fel man cyfarfod a diota a charu, a lle i ddwyn cariadon eich gilydd am dipyn o amser wedyn. Roedd Ffeiriau Llanybydder yn llawer mwy cyfleus - y tr锚n yn gadael y stesion cyn chwech a'r anifeiliaid yn Llunden y bore wedyn.
Mae s么n am y Ffair anifeiliaid yn Llanwenog ac yn yr olaf un fe ddihangodd un o'r teirw oedd yn cael ei arwain i'r steshon wrth gyrraedd Llanybydder ac aeth i ymosod ar Dr Jones, y meddyg lleol, oedd yn marchogaeth ei gaseg "Swallow". Pan welodd "Swallow" y tarw yn dod, dyma roi naid anferth i'w osgoi. Aeth hwnnw yn syth 芒'i ben i wal gemg - dyma felly ddiwedd y tarw a'r ffair.
Clywed wedyn gan Mrs Ada Williams am atgofion ei phriod yn dod a tharw oedd wedi mynd yn wyllt, o fferm Capel Iago' ar hewl Allt Y Mynydd. Dyma gerdded y tarw gyda bwmbwrth (mwgwd) dros ei ben a chriw wrth raffau yn ei arwain. Daeth diwedd y daith ar gyrrion y pentre pan bu rhaid saethu'r tarw. Cyn pen hanner awr 'roedd y tarw'n berchen i gigydd lleol ac yn hongian yn y lladd-d欧.
Darllenwch fwy...