Ymhle cawsoch eich geni a lle rydych yn byw?
Fe'm ganwyd mewn t欧 ar Y Stryd Fawr yn Aberystwyth yn 1932 - stryd ag ynddi fwy o siopau nad o dai annedd. Gadewais Aberystwyth yn 1952 - dychwelyd am wyliau yn unig hyd at 1968 ac wedyn prynu Montrose, Llanddeiniol. Roeddwn yn dychwelyd yn rheolaidd o dramor am wyliau hyd at 1990 pryd y gwnes ymddeol. Yn Llanddeiniol yr oedd gwreiddiau fy nghyndeidiau.
Rhowch fraslun o'ch gyrfa Mynychais Ysgol Gynradd Heol
Alecsandra, Ysgol Ramadeg Ardwyn a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth lie yr astudiais am raddmewn Daearyddiaeth o dan yr athro E.G. Bowen. Yna dwy flynedd o Wasanaeth Milwrol (National Service) yn yr RAF - gan mwyaf yn y Canal Zone, Yr Aifft. Yn 1956 ymunais a'r Gwasanaeth Trefedigol (Colonial Service) fel swyddog Ilunio mapiau i'r Llywodraeth Brydeinig. Treuliais 33 blwyddyn dramor yn Y Falklands, Uganda, Ghana, Ynysoedd Solomon, Guyana, Kenya, Ethiopia, Antigua, Malawi a'r Yemen.
Pwy yw aelodau'r teulu a beth yw eu hanes?
Wedi'r amser yn y Falklands priodais a
Barbara yn 1961 ac fe ddaeth gyda mi i'r holl wledydd uchod. Mae gennym ni dri o blant - David a anwyd yn Ghana, Mike a Cathy a anwyd ym Mhrydain. Roeddent yn rhan o'r teulu dramor tan iddynt ddychwelyd i Brydain am eu haddysg. 0 ganlyniad mae'r tri yn gweithio dramor-David yn ddaearegwr (geologist) hunan - gyflogedig yn gweithio gan mwyaf yn Affrica; Mike yn adarydd (ornithologist) yn y Dwyrain Canol a Cathy yn athrawes yn y Dwyrain Pell.
Beth yw eich diddordebau?
Ymchwilio i achau a hanes yn y Llyfrgell Genedlaethol; gofalu ar 么l y Rover 1961 a'r beic modur Sunbeam 1925; adeiladu modelau o longau ac wrth gwrs garddio.
A ydych yn mwynhau teithio? Pa ran o'r byd sydd orau gennych a phaham?
Os teithio o gwbl, i Ewrop. Mae teithio heddiw yn llawer mwy o boendod nag yr arferai fod. Ambell waith rwy'n meddwl yr hoffem ddychwelyd i'r gwledydd y bum yn gweithio ynddynt ond ar y llaw arall yn ofni fy siomi yn yr hvn a welwn heddiw. 0'r herwydd sefyll adref yw'r mwyniant mwyaf.
Petaech yn ennill y Loteri beth wnaech a'ch lwc?
Ei rannu.
Beth yw eich hoff dasg o gwmpas y t欧?
Golchi fan mewn d诺r poeth iawn.
Garddio neu drip i'r archfarchnad? Pa un sydd orau gennych a pham?
Rhaid gwneud y ddau and caf lawer mwy o bleser hirdymor wrth arddio.
Pa dymor o'r blwyddyn sydd orau gennych a pham?
Y Gwanwyn - tymor y gobaith.
Pa ddawn fyddech yn hoffi berchen arni?
Y ddawn i chwarae unrhyw offeryn cerdd wrth sain y glust
Pa fath o ddeunydd rydych yn mwynhau darllen? Rhowch rai enghreifftiau.
Yn y gorffennol rwyf wedi darllen yr un ar bymtheg o nofelau Charles Dickens. Hoffem eu hailddarllen and d'oes gen i mor nerth!! Yn ogystal llyfrau hanes a theithio.
A oes gennych hoff raglen deledu / radio? Enwch rai.
Pan yn byw dramor nid oedd gennym deledu. Y dyddiau hyn rwy'n mwynhau unrhyw raglen ddogfennol - and nid rhaglenni yn ymwneud ag ysbyty neu feddygaeth.
Beth sydd wedi rhoi mwyaf o bleser i chi yn ystod eich bywyd?
Stumog dda!
Pa sefydliad neu gymdeithas a ddylanwadodd fwyaf arnoch ee. clwb, capel a y.y.b
Y chwe mlynedd dreuliais yn Ysgol Ardwyn siwr o fod.
Eich hoff steil o gerddoriaeth. Ehangwch.
Clasurol - boed gorawl neu opera. Bum yn aelod o gor droeon and erioed yn unawdydd !! C么r Eglwys San Mihangel yn Aberystwyth; operatas yn Ardwyn a'r eisteddfodau rhyngolegol; a thramor - Y Meseia yn Malawi; a'r madrigals /Gilbert and Sullivan yn Ethiopia a Malawi. Nawr rwy'n fyr o anadl!