"Roedd sgwrs hynod diddorol rhwng Dei Thomas a'r Parchg WJ Edwards am rai o gerddwyr ffordd Ceredigion ar Radio Cymru.
Achosodd hyn i mi feddwl am gerddwyr ffordd neu dramps godre Ceredigion yng nghyfnod fy mhlentyndod.
Yr un cyntaf a gofiaf oedd Twm Aberdar oedd wedi colli ei fraich ac yn cerdded o gwmpas yr ardal.
Credaf ei fod yn byw yn ardal Betws a deuai i Rhydlewis yn gyson ac yn galw yn Tremallt. Roedd yn siarad Cymraeg ag acen bro ei febyd yn Aberdar, a byddem fel plant yn gofyn i Twm ganu. Roedd ganddo lais tenor hyfryd a Calon L芒n oedd hi bob tro, ac weithiau Sosban Fach.
Cofiaf Goddard y dyn tal fyddai yn gweithio ar ffermydd yr ardal a hefyd Davies (ei gyfenw yn unig a gofiaf) yn gwasanaethu yn Penparc gyda David a Nellie Jones a Lew a Medwyn. Pan fyddwn ni yn mynd i Penparc i gael reid gyda Lew i Gwynnant, roedd Davies yn brecwesta. Roedd yn ddyn arbennig o lanwedd os cofiaf yn iawn.
Am flynyddoedd bu pentref Nanty yn ganolfan i gerddwyr ffordd. Cefais lun flynyddoedd yn 么l gan y diweddar Ken Barlow o 7 Ty Nanty.
Pan aeth y tai yn furddunod trigai rhai cerddwyr ffordd yno.
Arferai Nhad ddweud eu bod yn peri ofn i fy mam-gu, sef Hannah Jones, Penwern, wrth ei bod hi yn cerdded i'r cwrdd i Hawen.
Dywedir fod dau o ieuenctid y fro wedi gosod y tai ar d芒n a'u bod wedi rhedeg mor bell ag Aberffinant a gwelent y fflamau o bell. Gwn o sicrwydd na chafodd y ddau eu dal ac fe gadwodd y ddau y gyfrinach tan eu marw!
Treuliodd Mr Burke flynyddoedd yn Nanty gan fynd ar ei feic i Rydlewis a helpu peth ar ffermydd. Yn gymharol ddiweddar soniodd Mary Brownhill o Penarth (Dyffryn Ceri gynt) ei bod yn gyfrifol am ffurflenni'r Cyfrifiad ym mhlwyf Troedyraur a'i bod wedi mynd i nanty at Burke. Doedd e ddim yn gwybod beth oedd y dyddiad nac ymhle y cafodd ei eni. Gwyddel oedd e, wrth gwrs, ond doedd e ddim yn gwybod ble roedd ei wreiddiau.
Byddai fy mam yn fy nanfon yn gyson a phryd o fwyd i Burke ac yn aml ar ddydd Sul a dydd Nadolig ac yn ystod cyfnod ei waeledd gofalodd ei fod yn ddiddos.
Un arall oedd John price a fu'n gweithio am flynyddoedd yng Nghwmbychan a Rhydygweision, ac a gafodd noddfa gysyrus yn y ddau le. Arferai ganu 'Holy City' ar ei ffordd adref o'r dafarn.
Wrth feddwl am y rhain, ynghyd a Paddy Gwallt Hir, yr hyn sydd yn ein taro heddiw yw eu bod yn symud o gwmpas yr ardal a phlantos fel ninnau yn gwbl ddiogel. Diau fod gan eraill o drigolion bro'r Gambo atgofion pellach am y cerddwyr ffordd.