´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Dafydd Apolloni ar glawr ei lyfr Roma: Hen Wlad Fy Nhad
Chwefror 2005
Braf yw cael darllen llyfr o waith awdur newydd a hwnnw'n awdur lleol.
Treuliodd Dafydd Apolloni, a fagwyd yn Llanrwst yn fab i Gymraes ac Eidalwr, gyfnod yn byw a gweithio yn Rhufain, yn dod i adnabod ei deulu a chynefino â byw a gweithio mewn dinas oedd yn anghyfarwydd iddo ond a oedd hefyd yn dwyn atgofion am ymweliadau â'r wlad yn ei ieuenctid cynnar.

Hanes y cyfnod hwnnw gawn ni yn y gyfrol hon, y byw a'r gweithio, yr ail-ymweld a'r dod i adnabod ei deulu a'r ddinas.

I'r sawl ohonom sydd heb fyw ymhell o fan ein geni, rhaid dotio at yr ysfa sy'n amlwg yn Dafydd i grwydro. Mae wedi treulio blynyddoedd yn byw a gweithio dramor - mae'r gyfrol yn cychwyn gyda'i ymadawiad o Baris a'i daith i Rufain - 'Hen wlad fy nhad'. Mae'n hawdd credu fod y ddinas hon yn golygu mwy iddo na'r lleill y bu'n byw ynddynt oherwydd y cysylltiad teuluol.

Mae'r awdur yn ein harwain mewn dull syml, hamddenol braf i brofi gydag ef sut beth yw byw yn Rhufain yn y flwyddyn 2000. Ceir darluniau o fwrlwm bywyd ar y stryd, yn y caffi, yn y bariau, ar y bysus ac yn y stadiwm pêl-droed. Ond, hefyd, down i wybod llawer am hanes - hen a diweddar - y ddinas ddiddorol hon. Cerddwn gyda Dafydd trwy Rufain yn cael gwersi am hanes a diwylliant, sy'n amlwg ar flaenau'i fysedd, ond sy'n cael eu hadrodd mewn modd difyr ac heb fod yn fwrn ar y darllenydd.

Mae ganddo'r gallu i sylwi yn fanwl ar bobl a digwyddiadau a daw'r bobl y mae'n dod i'w hadnabod yn fyw trwy ei ddisgrifiadau manwl. Mae'n rhoi aml i sylw ar y natur ddynol hefyd a chawn ddarlun clir o agwedd y Rhufeniwr tuag at fywyd - biti na fuasem ni yma yng Nghymru yn rhoi cymaint o bwyslais ar dreulio oriau yn cymdeithasu o gwmpas y bwrdd, yn bwyta ac yfed (a choginio) gydag afiaith y Rhufeiniwr.

Gyda Dafydd, down i adnabod ei deulu ac fe geir disgrifiadau hyfryd o'u bywydau nawr a'r newidiadau a ddaeth i'w rhan.

Mae pêl-droed - a chefnogaeth frwd i dîm Roma - yn gweu trwy'r gyfrol. Ond gall pawb, hyd yn oed y rhai heb rithyn o ddiddordeb yn y gêm, fwynhau'r rhannau hynny hefyd gan eu bod yn rhan annatod a naturiol o'r profiadau a gafodd yr awdur.

Teimlodd Dafydd reidrwydd dod i ddeall ac adnabod ei gefndir o ochr ei dad. Mae awgrym cryf ei fod yn ei adnabod ei hun yn well ar ddiwedd y cyfnod hefyd. Difyr iawn oedd rhannu ychydig ar ei brofiadau trwy gyfrwng y gyfrol hon.

gan Glenda Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý