´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Sgwâr Llanrwst Troi Llanrwst yn wyrdd
Hydref 2008
Ar ddydd Sadwrn Medi'r 20fed trodd Llanrwst yn wyrdd wrth i'r artistiaid preswyl, Megan Broadmedow a Mari Elain Gwent osod tywyrch gwair ar draws sgwâr y dref.

Roedd y digwyddiad artistig unigryw hwn yn cynnwys perfformiad unwaith yn unig wrth i'r tywyrch gael eu gosod.

Roedd hefyd yn nodi dechreuad cyfres o ddigwyddiadau yn y dref ac yng nghoedwig Gwydr yn ystod y misoedd nesaf.

Mae Megan a Mari yn gweithio ar brosiect a elwir yn 'Llwybr y Ceirw'. Maent wedi eu comisiynu gan grŵp cymunedol 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' i gynhyrchu gwaith celf cyfoes er mwyn dathlu hanes cyfoethog ac amrywiol Llanrwst.

Datblygodd y syniad i osod y tywyrch gwair ar y sgwâr wrth i'r ddwy artist gael eu swyno gan y ffaith fod trigolion Llanrwst, yn anterth gwrthryfel Glyndŵr' yn yr 1440au, wedi ffoi o flaen fflamau'r dref a cheisio lloches yn y goedwig.

Roedd y dref yn wag am gyfnod mor hir fel y tyfodd gwair ar y sgwâr gan ddenu ceirw o'r goedwig yno i bori!

Eglurodd Megan "Roedd gennym ni awydd mawr i ddangos y cysylltiadau rhwng y dref â'r goedwig, ac i ymchwilio i ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y prosiect. Rydw i bob amser yn hoffi'r syniad o gyfuno pethau cyferbyniol, ac felly roedd yn teimlo'n iawn i ddod â deunyddiau naturiol i'r dref, ac i orchuddio'r sgwâr efo gwair."

Ychwanegodd Mari "Rydym hefyd yn edrych ymlaen at wneud gwaith a fydd yn rhoi cipolwg ar hen gymeriadau fel Dafydd ap Siencyn, a oedd yn Robin Hood o gig a gwaed. Roedd o'n byw mewn ogof uwchben Llanrwst.

"Ond roeddem ni hefyd eisio cynhyrchu gwaith sydd yn ymwneud â thrigolion Llanrwst heddiw, gan eu bod nhw yr un mor ddiddorol.

"Mae'n bwysig i ni fod y gwaith yn golygu rhywbeth i bobl a'i fod yn adlewyrchu'r diwylliant lleol."

Gofynnodd Cymdeithas Cymru, Lloegr a Llanrwst hefyd i'r artistiaid gynllunio llwybr cerfluniau a fydd yn dechrau yn y dref ac yn arwain i'r goedwig.

Mae Megan a Mari wedi bod yn brysur yn meddwl am ystod eang o waith cerfluniol, a bydd y gwaith o lunio'r llwybr cerfluniau yn dechrau ym mis Hydref.

Mi fydd mwy o ddigwyddiadau yn cael ei cynnal yn ystod yr Hydref, ac mi fydd y ddwy artist yn cymryd rhan yn Helfa Gelf.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Emlyn ar 01492642357.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý