´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Ynyr a Maredydd, enillwyr y ddau gategori reslo ysgafn Ymaflwyr Cymru ar flaen y gad
Chwefror 2008
Daeth bron i bedwar cant o bobl a phlant i Ganolfan Hamdden Llanrwst ddiwedd Ionawr i Noson Reslo Americanaidd.

Trefnwyd y noson gan yr enwog Orig Williams, a adnabyddir fel El Bandito, a Phwyllgor Dawns Eisteddfod yr Urdd.

Bari 'Ten Foot' Griffiths, Dafydd Vaughan a Johnny Saint oedd y tîm o Gymru oedd yn paratoi ar gyfer herio'r Americanwr Alan, yr Albanwr McDonald a'r Sais Gary, yn y cylch reslo.

Roedd y floedd i Bari 'Ten Foot' y cawr o Borthmadog yn diasbedain, ac roedd y dorf yn llawn edmygedd o weld y Cymro 21 stôn, chwe troedfedd saith modfedd yn paratoi ar gyfer yr ornest.

Doedd gan yr Americanwr ddim gobaith wrth i gefnogaeth y dorf gario'r Cymro i'r brig, a phan gododd 'Ten Foot' faner Cymru yn fuddugoliaethus ar ddiwedd yr ornest, roedd y dorf ar dân!

Yna, tro'r bobl ifanc oedd ymaflyd codwm yn y cylch. Maredydd Pyrs o Badog ger Betws y Coed oedd pencampwr y bechgyn dros unarddeg oed, ac Ynyr Jones o Lanrwst, deg oed, enillodd gystadleuaeth y categori iau.

Cyflwynwyd gwregys pencampwyr reslo i'r ddau. Llongyfarchiadau iddynt ar ddod yn bencampwyr reslo Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 08!

Yng ngornest olaf y noson gwelwyd chwe reslwr proffesiynol yn y cylch, ac er iddi fod yn ornest agos, daeth tîm Cymru i'r brig. 'Roedd hi'n noson llawn hwyl i'r teulu cyfan ac mae'r diolch yn fawr i Orig a phawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson yn codi dros £1000.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý