´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Bydd Only Men Allowed yn cymryd rhan i godi arian Penblwydd Hapus
Mai 2009
Ar 27 Mai bydd Hosbis Dewi Sant yn 10 oed ac ym mis Gorffennaf bydd TÅ· Gobaith yn 5 oed.

Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y diwrnod y cafodd tywarchen ei thorri yn Llandudno gan Martin Lewis (Darlledwr Newyddion y ´óÏó´«Ã½) a hefyd un bob un gan 20 maer lleol.

Mae'r hosbis wedi symud ymlaen o fod yn cynnig gofal dyddiol yn unig i fod erbyn hyn yn gallu derbyn 11 o gleifion preswyl.

Mae'r ganolfan Gofal Dydd yn cynnig sylw mewn dull holistig i'r cleifion a'u teuluoedd drwy arbenigedd tîm o nyrsus, meddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion cyflenwol a gweithwyr ar gael i drin traed a gwallt.

Mae'r pwyslais yn cael ei roi ar wneud y profiad yn un pleserus a dibryder i'r claf, ei ofalwyr a'i deulu a'r prif nod yw diwallu anghenion yr unigolyn.

Yn yr un modd mae'r gwasanaeth a gynigir yn NhÅ· Gobaith wedi datblygu'n sylweddol drwy ofalu am blant angeuol wael a'u teuluoedd.

Mae'r gofal yn cael ei deilwrio ar gyfer pob unigolyn a mae'r hyblygrwydd yma yn rhoi cefnogaeth aruthrol i deulu pob plentyn.

Wrth gwrs, nid yw gofal o'r safon gorau yn dod am ddim!

Mae Hosbis Dewi Sant a TÅ· Gobaith yn hynod o ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr sydd wedi treulio blynyddoedd er mwyn iddynt gael gwireddu'r freuddwyd o fedru cael darpariaeth fel hyn yng Ngogledd Cymru.

Mae'r ddwy sefydliad yn gorfod codi ymhell dros £1 miliwn yn flynyddol ac yn gwerthfawrogi pob ceiniog sy'n dod o sawl cyfeiriad gwahanol.

Sut mae pobl yn mynd ati i godi arian?

. Cyfeillion Hosbis Dewi Sant - tanysgrifiad blynyddol o £ 15

. Lotri'r Hosbis

.Siopau Elusennol - Conwy/Llandudno/Craigydon/Llandrillo yn Rhos/Bae Colwyn/Llanrwst

.Ailgylchu - hen ffonau symudol/darnau arian tramor/hen stampiau

.Blychau mewn siopau lleol.

.Rhoddion Dathlu - gofyn am rodd o arian yn hytrach nag anrheg penblwydd/priodas a.y.b

.Digwyddiadau noddedig

.Cymunroddion

Gan fod hon yn flwyddyn mor arbennig mae TÅ· Gobaith wedi trefnu dathliadau swyddogol hefyd i godi arian ac yn cynnig rhai syniadau gwreiddiol i ddathlu pum mlynedd o wasanaeth.

. Trefnu taith gerdded noddedig gan ddefnyddio 5 yn thema - 5 km neu 5 milltir

.Te Parti gyda cymdogion/ffrindiau

.27 Mehefin - Gŵyl yn Yr Wyddgrug - 'Clasuron yn y Parc' - Rhys Meirion, Shân Cothi a David Kempster

.28 Mehefin - 'Corau yn y Parc' - 'Only Men Aloud'!' /Ysgol Glanaethwy/Mark Evans/Côr Trelawnyd/Côr Caerwys/Côr Rygbi Gogledd Cymru (01745 330000)

Gweithgareddau Hosbis Dewi Sant

. 7 Mehefin - Taith Gerdded y 2 Raeadr Abergwyngregyn

. 26 Mehefin - Dawns Haf Flynyddol

. 25 Gorffennaf - Garddwest Haf

. 14 Awst - Diwrnod Golff a Swper

. 15 Awst - Ras Hwyaid


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý