Mae hyn yn cael ei leisio gan nifer o bobl wrth iddynt sylweddoli fod yna rhywbeth yn "wahanol".
"Mae'r distawrwydd wedi gwneud argraff ar lawer," meddai Emma sy'n gweithio yn y siop ar draws y ffordd i'r ffatri. Mae rhai yn ei chael hi'n anodd i gysgu gan eu bad wedi arfer efo twrw rheolaidd y peiriannau yn y tywyllwch; eraill yn teimlo'n unig wrth fynd am dro i lawr y llwybr heibio'r ffatri gan nad oes yna sŵn mecanyddol y celfi na lleisiau gweithwyr i'w clywed - "anghysbell" oedd barn un wraig.
Dim ond nifer fach o staff sydd bellach ar y safle gyda chyfrifoldeb am gynnal a chadw, a iechyd a diogelwch.
Beth bynnag yw y farn wleidyddol a phersonol am beth sydd wedi
digwydd, rhaid gobeithio am y gorau i'r rhai sydd yn heb waith o ganlyniad i hyn. Mae nifer ohonynt yn dod o deuluoedd lle mae cenedlaethau wedi cael eu cyflogi yn Nolgarrog a mae hwn yn ddiwedd cyfnod yn hanes y teulu.
Nid ar chwarae bach y mae dewis - neu hyd yn oed gael hyd - i yrfa newydd y dyddiau yma. Mae yna nifer fawr yn mynd i orfod pwyso a mesur i ba gyfeiriad i fynd a rhoi ystyriaeth efallai i orfod codi gwreiddiau a symud eu teuluoedd i ardal newydd. Mae'n sicr y bydd rhai yn medru syrthio'n ôl ar sgiliau trosglwyddiadwy y gallant eu cynnig mewn gweithle arall tra bydd eraill yn wynebu'r her o fynd drwy gyfnod o hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau eraill. Mae hyn yn wir am nifer fawr o weithwyr ar draws Cymru - mae gwrando ar y newyddion ar Radio Cymru yn gwneud i ni sylweddoli fod yna "Ddolgarrog" rhywle ym mhob cornel o'r wlad.
Mae'r goleuadau Nadolig yn disgleirio yn y goeden y tu allan i'r ffatri - fflam gobaith?
|