Yn nes adref yr ydym yn darllen am drais, llofruddiaethau, damweiniau angheuol, gorddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, llacrwydd moesol sy'n arwain at dorcalon, ac weithiau, yn anffodus, afiechydon heintus. Y mae straen ac iselder ysbryd yn glefyd ein hoes a phen draw y cyflwr yma ydyw hunanladdiad. Ynghlwm a hyn clywn am sefydliadau pwysig yn ein cymdeithas yn methu oherwydd diffyg arian. Cronfeydd ysgolion, prifysgolion, ysbytai, meddygfeydd a sefydliadau diwylliannol yn mynd yn hysb, a chymdeithas yn cael ei amddifadu o wasanaethau angenrheidiol.
Er ceisio codi arian i gefnogi cronfa fregus yr Eisteddfod Genedlaethol trefnwyd diwrnod i ddathlu Gŵyl Dewi yma yn Henryd. Cafwyd paned yn y bore, yna bu'r plant ysgol yn rhoi gwasanaeth Gŵyl Dewi yn y Capel (Capel yr Annibynwyr), ac wedyn, cafwyd cyfarfod agored pryd y rhoed cyfle i pwy bynnag arall oedd eisiau darllen ei hoff ddarlleniad o'r Beibl. Daeth Mr Dennis Davies, Curadur 19 Mawr Wybrnant i fwynhau cinio syml hefo ni a rhoddodd sgwrs fanwl i ni ar ei waith, ac ar y Beibl Cymraeg. Casglwyd £180 at yr Eisteddfod yn Y Faenol.
Ar ddiwedd dathliadau Gŵyl Dewi gofynnwyd i mi: "Pryd y cawn ni wneud hyn eto?" Daeth yr ateb - ar Hydref 20ed.
Neilltuwyd dydd lau Hydref 20ed fel diwrnod cyfan o ddiolchgarwch i'r gymuned yn Henryd. Yng nghysgod yr hyn oll sy'n digwydd yn y byd mawr tu allan i'n cymdogaeth ni, a'r hyn sy'n digwydd yn nes adref, y mae'n bwysig cydio yn yr aelwyd sy'n gartref i ni. Y gymdogaeth lle rhown ein pen i lawr i gysgu bob nos.
Dewiswyd - "Am brydferthwch daear lawr" fel thema i'r diwrnod.
Gwelir detholiad o luniau gan Mr D R Williams, Ysgrifennydd Capel yr Annibynwyr, Henryd, yn y rhifyn hwn o'r Pentan sy'n rhoi golwg y camera ar ddigwyddiadau'r dydd.
Daeth nifer dda i gymdeithasu a chael paned o de am 10.00 y.b. yn yr ysgoldy, cyn i bawb fynd, yn ei amser ei hun, i fyny at hen Eglwys Llangelynnin. Yna rhwng ganol dydd a dau y prynhawn gweinwyd cinio tri cwrs, yn ysgoldy'r Capel, ac ar yr un pryd yr oedd 'na gynnyrch ar werth a'r Stondin yn ddeniadol a llawn. Unwyd a ni, ar ddiwedd y cinio, gan Miss Llio Wyn Richards o Ymddiriedolaeth Datblygu y Brifysgol ym Mangor, a bu hi wedyn, gyda chynulleidfa dda arall, yn y Capel, yn uno a phlant Ysgol Llangelynnin yn eu Gwasanaeth o Ddiolchgarwch.
Bu'r cyfarfod o fawl a diolch ar gân, cerdd, darlleniadau o ryddiaith a barddoniaeth yn gyfarfod i'w gofio am 7.00 y.h. Drwy eu cyflwyniadau llwyddodd y rhai a oedd yn cymryd rhan i greu awyrgylch gyfoethog iawn o ran ysbryd a diwylliant. Yr oedd yn hynod ddiddorol sylwi ar blethiad meddwl y Salmydd, Cynan, I. D. Hooson, T Rowland Hughes, Griftydd Parry, Tony ac Aloma. Tecwyn Ifan, Chris Bowater, Trebor Edwards, Margaret Edwards, Bryan Aspden, 'Hiraethog' a mwy - Oeddem yr oeddem mewn cwmni dethol iawn.
Codwyd £381.98 ar y diwrnod a bydd yr arian yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd i'r Labordy yn y Brifysgol ym Mangor a Chanolfan yr Orsedd yn Llandudno.
Tu ôl i'r penderfyniad i fynd i fyny i hen Eglwys Llangelynnin yr oedd atgof o lais crynedig fy mam yng nghyfraith, ar ddiwedd chwedegau'r ganrif ddiwethaf, yn adrodd ei hoff Salm:
'Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd
0 lle y daw fy nghymorth
Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd
Yr hwn a wnaeth Nefoedd a Daear
Yr oedd ein neiniau yn meddu ar ffydd syml. Yn seiliedig ar gred digwestiwn. Boed i ninnau drosglwyddo yr un ffydd i'n plant ac i blant ein plant.
Yng ngweddi plant yr ysgol a gyflwynwyd gan Lauren Lewis, wyres Mr a Mrs Elfed Lewis, Y Siop, Henryd, yng nghyfarfod yr hwyr cyflwynwyd diolchgarwch syml plentyn a dyhead y gymuned am aelwydydd hapus gwarchodol a chymdeithas ddedwydd i ymdroi ynddi.
³Ò·É±ð»å»åï·É²Ô:
Diolch Dduw am y bwyd rydym yn fwyta,
y dillad a wisgwn, am rieni i edrych ar ein holau,
Am wlad lân a phrydferth i fyw ynddi.
Diolch am ein hysgol, am yr holl bobl sy'n ein helpu bob dydd, ac am fy ffrindiau. Amen.
Boed i gyfoeth a bendith y diwrnod arbennig yma ein tywys yn ddedwydd i dymor yr ewyllys da ac i mewn i'r flwyddyn newydd.
(Diolch i ymddiriedolwyr Capel yr Annibynwyr yn Henryd am gael defnyddio'r adeiladau ar y dydd. Diolch i'r Parchedigion Brian Wright a Eryl Lloyd Davies am gefnogi'r gymuned gyfan yn eu hymdrech i dalu diolch am holl fendithion y llecyn hardd yma o Ddyffryn Conwy. Yn arbennig diolch i blant Ysgol Llangelynnin am lenwi y Capel â'u lleisiau didwyll o ddiolchgarwch - y nhw ydyw Calon ein Cymuned.)
Margaret Jean Jones