Nos Lun
Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i noson gyntaf yr ŵyl. Croesawyd pawb gan Arweinydd yr Ŵyl, Gwynn Griffith. Llywydd y noson oedd Mr Aneurin Phillips, Rowen. (Prifweithredwr Parc Cenedlaethol Eryri). Cawsom anerchiad gydag apêl ynddi, ar i ni warchod ein treftadaeth a'n hamgylchedd, a cheisio creu cymunedau byw.Cwmni Ysgol y Creuddyn a ddaeth i'r llwyfan gyntaf i berfformio y ddrama Perthyn gan Meic Povey.Roedd hon yn ddrama anodd iawn i bobl ifanc i'w pherfformio, ond yn wir fe lwyddodd y cwmni ifanc yma i ddal sylw y gynulleidfa. Nid galwad i fwynhau yn yr ystyr cyffredinol, ac i ymateb gyda chymeradwyaeth oedd hon, ond drama i hoelio ein meddyliau ar ddifrifoldeb trais yn y cartref.
Diolch i'r Cwmni am gyd-actio effeithiol, llefaru clir, a chyflwyniad egnïol. Diolch i'r cynhyrchydd Catrin Jones.
Yr ail gwmni oedd Cwmni Nebo yn cyflwyno drama gan Peter Hughes Griffiths Wrth y Pwll. Drama gomedi oedd hon, ac felly yn gofyn am actio, ac ymateb cwbl wahanol, a dyna gawsom. Fe agorwyd y ddrama gyda bywiogrwydd, ac fe lwyddwyd i gynnal hyn trwy'r perfformiad hwyliog yma.
Roedd yr actorion yn amlwg yn mwynhau cyd-actio, ac yn cymeriadu yn effeithiol a naturiol iawn; ac ymateb y gynulleidfa yn profi iddynt fwynhau.
Diolch i'r cwmni yma hefyd am ei gyfraniad, ac i'r cynhyrchydd Glenys Tudor Davies.
Nos Fawrth
Wedi gair o groeso gan Arweinydd yr ŵyl, croesawyd Cwmni Aelwyd yr Urdd, Llanrwst. Cwmni o actorion dan 21 oed, yn perfformio Trafferth Mewn Ysgol gan Gwenan Gruffydd.
Roedd y ddrama yma eto fwy ar gyfer oedolion, ond er hynny fe lwyddodd y cwmni ifanc yma i greu awyrgylch ystafell athrawon, ac i gynnal hynny trwy'r amser. Roedd yma gastio da ac yn naturiol fe ychwanegodd hynny at y perfformiad llwyddiannus hwn. Roeddent yn amlwg yn mwynhau cyd-actio dan gyfarwyddyd y cynhyrchydd Glenys Tudor Davies.
Cwmni Penmachno a ymddangosodd yn ail hanner y noson, cafwyd perfformiad o'r ddrama Eira Mawr gan John Evans. Dyma griw da, yn gwybod i'r dim beth oedd gofynion y ddrama hwyliog yma. Roedd yma gyd-chwarae effeithiol, gyda phob symuniad a'r llefaru wedi eu amseru yn berffaith. Roedd ymateb y gynulleidfa yn adlewyrchiad amlwg o'r boddhad a gafwyd o'r perfformiad gan Gwmni Penmachno. Cymerodd pob un o'r cast ran yn y cynhyrchu a gwneud gwaith da ohoni.
Llywydd y noson oedd Mr Dafydd Appolloni, Llanrwst. Mae Dafydd yn dal swydd ynglŷn â hybu'r iaith Gymraeg. Ei neges i ni oedd ar i ni ddefnyddio'r Gymraeg bob cyfle a gawn, a dangos pa mor gyfoethog ydy'r Gymraeg.
Nos Fercher
Dyma ni wedi cyrraedd noson ola'r ŵyl am eleni. Y cwmni i ymddangos oedd Cwmni Drama Llangernyw yn perfformio Yr Opyreshion gan Elfrys Roberts.
Cawsomgyflwyniad ardderchog gan y cwmni yma. Roedd y castio wedi ei wneud yn ofalus, a'r actorion wedi llwyddo i bortreadu y cymeriadau yn wych iawn.
Ymdriniwyd â'r sgript yn gampus trwy lefaru clir, a phwyslais ar y dweud wedi cydio yn y gynulleidfa ac ennill ei hymateb. Ychwanegwyd at y perfformiad gyda symudiadau effeithiol ar y llwyfan, a chyd-chwarae wedi ei amseru i'r dim. Roedd yma ôl medrus y cynhyrchydd Arwel Roberts ar y cyfan.
Llywydd y noson oedd Y Parchedig Brian Wright. Mynegodd ei falchder o weld fod y Diwylliant Cymreig yn dal ei dir yn ardal Conwy; a hefyd fod yma gymaint o ddoniau i gynnal Gŵyl Ddrama am dair noson. Credai fod y cylch yn haeddu canmoliaeth.
Talwyd y diolchiadau gan Glenys Tudor Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Ddrama'r Pentan. Diolchodd i bawb a weithiodd yn galed i sicrhau llwyddiant yr ŵyl.
Wedi gwrando ar feirniadaeth adeiladol Gwion Lynch, roedd diddordeb mawr yn ei ddyfarniad. Dyma'r canlyniadau:
Categori Agored
Cyntaf - Llangernyw (Cwpan Banc y Midland)
Ail - Penmachno (Cwpan Bob Parry a'i Gwmni)
Trydydd - Cwmni Nebo (Cwpan y Pentan)
Ieuenctid o dan 25 oed
Cyntaf - Ysgol y Creuddyn (Tlws y Parch H Rhys Hughes)
Ail - Aelwyd Llanrwst (Tlws Arwelfa)
Actor Mwyaf Addawol
Rhannu'r wobr rhwng: Siana Fflur a Melanie Roberts, Cwmni Aelwyd Llanrwst (Tlws y Dyffryn)
Prit Actor yr Å´yl
Ioan Hughes, Cwmni Drama Llangernyw (Tlws Eryl Berry)
Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at raffl GŵyI Ddrama y Pentan.
Y Cvfranwvr:
Wynnstay, Llanrwst
Bys a Bawd, Llanrwst
Ieuan Edwards, Conwy
Siop Cynnyrch Cyfiawn, Conwy
Jean Morgan Roberts, Conwy
Clwyd a Gwyneth Jones, Conwy
Siop Na Nog, Llandudno
Gwesty Lodge, Tal y Bont
Un Di-enw
Gwnaeth y raffl elw o £255.00