Hawliodd ei nofel gyntaf, 'Mr Vogel' ei lle ar restr fer Gwobr Bollinger a dyfarnwyd Gwobr McKitterrick 2005 iddi.
Sicrhaodd ei ail nofel, 'Mr Cassini', wobr
Llyfr Y Flwyddyn 2007.
Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol o straeon byrion, 'My First
Colouring Book' a'i nofel gyntaf yn y Gymraeg - 'Dwr'.
Yn ei hanfod hanes pererinion ar bererindod (criw brith) a ddadlennir yn 'Mr Vogel' ac yn 'Mr Cassini' darlunir ymgais i adfer plentyndod coll mewn byd rhyfeddol o eira, gwydr ac ôl troed yn y rhew.
'Roedd aelodau Dosbarth Nos Llangernyw yn awyddus i gydnabod ei gamp - ond pwy allai wneud cyfiawnder a'r comisiwn?
Doedd dim rhaid mynd tu hwnt i Fro Cernyw nag yn wir gam pellach na Bryn Clochydd cartref Lloyd Jones.
Mae gan Rhian ddawn creadigol a hi wnaeth y gwaith cwbl unigryw. Mae'r ffaith fod Rhian yn perthyn i'r awdur
yn gyd-ddigwyddiad hyfryd. Y tlws
Dyma sut y disgrifiai Rhian y tlws:
"Nes i benderfynu ar ôl troed yn amlwg oherwydd ei fod yn cyfeirio at anturiaethau a theithiau Mr Vogel a hefyd Mr Casinni, ond hefyd roeddwn yn teimlo ei fod yn arwyddocâd o daith personol; o Fro Cernyw, o amgylch Cymru a thu hwnt, a hynny ar sawl lefel.
"Diolch i'r dosbarth nos yn Llangernyw am ofyn i mi greu y darn, mae o wedi bod yn bleser.
"Mae wedi ei wneud o wybr crisial plwm; drwy dechneg o gastio troed mewn clai, yna ei orchuddio mewn mould plastar, tynnu'r clai wedyn rhoi'r gwydr yn y gofod gwag a'i danio mewn odyn i fyny at 850.
Mae'r darn gorffenedig wedi cael ei bolishio mewn gwahanol ffyrdd."
|