´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Tîm Pêl-droed Cyntaf Llanrwst Unedig Clwb Pêl-droed Llanrwst Unedig
Mehefin 2004
Mae Clwb Pêl-droed Llanrwst Unedig yn dathlu eleni, gyda'i ddau dîm oedolion yn blasu llwyddiant y tymor yma.
Bu i'r tîm cyntaf ennill eu pencampwriaeth drwy ddod yn gyntaf yn Uwch Gynghrair Gwynedd, sydd wedi ei noddi gan Gwyliau Seren Arian Cyf., gan sicrhau'r man cyntaf gydag un gem yn weddill.

Bu'r ail dim yn fwy llwyddiannus fyth, gan gipio'r Goron Driphlyg fel petai. Enillodd yr ail dîm Adran Gyntaf Cynghrair Threeways Subaru Gwynedd, yn ogystal a Chwpan Ron Jones a Chwpan John Hughes. Cyflwynwyd cwpan y gynghrair ar faes chwarae Clwb Pêl-droed Conwy Unedig.

Cytunodd y rheolwyr - Chris Williams a Martin Tomos ar gyfer y tîm cyntaf, ac Iwan Roberts sy'n rheoli'r ail dîm - fod y buddugoliaethau yma yn tystio i waith caled y chwaraewyr i gyd dros y flwyddyn olaf. Ychwanegwyd fod yr hogiau wedi creu grŵp lle mae pawb yn chwarae dros ei gilydd, gan greu teimlad o undod yn y ddau dîm.

Mae'r ddau dim rŵan wedi cael dyrchafiad i gynghrair uwch, gyda'r ail dim yn cymryd lle'r tîm cyntaf yn Uwch Gynghrair Gwynedd, a'r tîm cyntaf yn codi i Gynghrair Cymreig Pentraeth Honda.

Mae'r Clwb Pêl-droed yn darparu timau ar gyfer plant a ieuenctid hefyd, ac hynny ar gyfer gwahanol oedrannau. Mae'r timau yn dechrau ar gyfer plant dan 8 oed, ac mae timau wedyn ar gyfer pob oedran hyd at 17 oed, gan gynnwys timau merched dan 11 a dan 12 oed.

Mae'r Clwb yn trefnu gweithgareddau ar gyfer yr haf, gan obeithio cydweithio hefo chlybiau chwaraeon eraill yn y dref a'r dyffryn. Ar brynhawn Sul, Gorffennaf 25ain, croesawir tîm Merched Lerpwl i Barc Gwydir, am 2-30. Mae croeso i bawb ddod i wylio a chefnogi. Efallai fydd merched Lerpwl yn medru rhoi hogiau Llanrwst yn ôl yn eu lle...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý