´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Dawnsio yn y sgwâr Llanrwst yn dathlu Gŵyl Ddewi 2007
Mawrth 2007
Daeth criw o bobl at ei gilydd yn ardal Llanrwst i gydweithio er mwyn creu amrywiaeth o ddigwyddiadau i ddathlu Gŵyl Dewi Sant eleni.
Ymdrech oedd hon i geisio sefydlu arferiad o ddathlu gŵyl nawddsant Cymru ar raddfa fwy, gan drefnu digwyddiadau i farcio'r dyddiad, ac felly cynyddu'r sylw sy'n cael ei roi i'rdiwmod.

Er bod grwpiau a mudiadau traddodiadol, fel y capeli a Merched y Wawr, yn dathlu'r wÅ·l yn flynyddol, gobeithir fod modd ychwanegu at y dathliadau hyn, gan godi proffil y diwrnod ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.

Ymysg digwyddiadau newydd y flwyddyn hon, cafwyd taith gerdded dan arweiniad Gwyn Jones ar Fawrth 1af i lansio'r daflen gyntaf mewn cyfres o daflenni sy'n awgrymu llwybrau cerdded yn dechrau o Lanrwst.

Cafodd y cerddwyr banad a chacennau yng nghanolfan Glasdir ar ddiwedd y daith.

Prosiect yw hwn rhwng grŵp 'Trailblazers'/Cerddwyr Llanrwst, Cyngor Tref Llanrwst a'r Gwasanaeth Cefn Gwlad.

Bydd y daflen gyntaf ar gael yn siopau a chanolfannau Llanrwst yn ystod y dyddiau nesaf. Trefnodd Clwb beicio Mynydd Dyffryn Conwy daith nos yng Nghoed Gwydir, yn ddiweddarach y noson honno.

Cafwyd noson cwis dan ofal Fwrdd yr laith Gymraeg nos Wener, Mawrth 2il, gyda Llion Williams.

Daeth dros 10 tîm i gystadlu, gyda'r enillwyr yn dod o dîm Hami, Peter Booth, Jonsyn, Aled Postmon a Hywel Pen (sawl ffynhonnell wybodaeth y yna, yn amlwg!).

Roedd yna w i'r timau oedd yn ail - tîm Elgan Lloyd - a thrydydd, sef tîm Cae Brychiad, a llwy bren i'r olaf. Diolch yn fawr i'r help llaw gan bawb yn y Llew Coch a Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst.

Gwelodd dydd Sadwrn, Mawrth 3ydd blant o ysgolion Bro Gwydir, Betws y Coed a Llanddoged yn dawnsio gwerin ar y sgwâr.

Gyda'r tywydd yn cadw'n braf, daeth nifer fawr o bobl i wylio, i fwynhau'r dawnsio, y gerddoriaeth a'r haul.

Diolch yn fawr i Ddawnswyr Sir Conwy ac athrawon a phlant yr ysgolion cynradd a gwaith - braf iawn oedd gweld cymaint o liw a bwrlwm yng nghanol Llanrwst.

A diolch hefyd i bawb yn siop Trysorau Bach am defnyddio'u trydan!

Dilynwyd hyn gan daith gerdded hanes, dan ofal Pat Rowley o Gymdeithas Hanes Llanrwst. Roedd Pat yn hapus iawn o'r niferoedd - bron i 30 0 bobl wedi mynychu.

Gyda chymaint o siopau'r dref gwneud y fath ymdrech i addurno'u ffenestri yn dilyn thema Dewi Sant a Chymru, roedd cryn deimlad o Å´yl Dewi y flwyddyn yma.

Mae Menter Nant Conwy a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gobeithio bydd modd adeiladu ar hyn y flwyddyn nesaf.

Os oes syniadau neu sylwadau gennych ar hyn, mae croeso i chi gysylltu Dafydd Apolloni ar 01492 642108.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý