Roedd yn cael ei chynnal yn Stratford, ychydig filltiroedd o Toronto. Dyma ail ymweliad y c么r 芒 Chanada - y tro diwethaf yng ngorllewin y wlad yn 1997.Roedd yn rhaid teithio'n gyntaf i faes awyr Heathrow cyn hedfan am saith awr i Toronto, pedwar deg o aelodau'r c么r a chwedeg o gefnogwyr - pawb mewn hwyliau da a gweddill y teithwyr yn gwirioni efo'r canu Cymraeg yn ystod y daith. Aeth un o'r stiwardiaid cyn belled a dweud mai hon oedd y daith mwyaf pleserus y bu'n gweinyddu arni mewn tri deg pedwar o flynyddoedd.
Cynhaliwyd Noson Lawen wedi ei threfnu gan Gymdeithas Ontario a chyflwynwyd nifer o eitemau gan y ddwy wlad - cyfle i ymlacio a chyfarfod 芒 pherthnasau a ffrindiau, rhai heb weld ei gilydd ers dros bum mlynedd ar hugain. Ar y dydd Sadwrn cafodd pawb y diwrnod yn rhydd cyn y perfformiad swyddogol cyntaf yn Eglwys Unedig Parkview gyda'r nos. Roedd yr eglwys yn orlawn a'r gymeradwyaeth ar y diwedd yn deilwng iawn. Daeth y noson i ben yn y gwesty - pawb yn cymdeithasu a mwynhau amrywiaeth o eitemau gan hogiau'r c么r a thrigolion Canada. Roedd yna ddigon o egni a brwdfrydedd i gario ymlaen tan oriau m芒n y bore.
Ar fore a phrynhawn y Sul cynhaliwyd Cymanfa Ganu yn yr eglwys - eto'n orlawn - o dan arweiniad Trystan Lewis, arweinydd y c么r gyda Rhys Roberts yn organydd. Cyflwynwyd eitemau gan aelodau eraill o'r c么r gan gynnwys Tom Davies, Bryn Williams, Hywel Williams, Edgar Jones, Eric Roberts a Stan Roberts.
Ymlaen wedyn i Toronto a chael cyfle i ymlacio a mwynhau golygfeydd y ddinas. Roedd y cyngerdd olaf yn Canada'n cael ei gynnal yn Eglwys Dewi Sant sydd o dan ofal y Parchedig Deian Evans. Symudodd Deian a'i wraig Annette, o Griccieth lai na blwyddyn yn 么l; roedd Deian yn athro yn Ysgol Eifion Wyn ac Annette yn ymgynghorydd gyda Cwmni Cynnal. Cafodd aelodau'r c么r a'u cefnogwyr groeso cynnes eto a phawb ar eu traed ar y diwedd i ddangos eu cymeradwyaeth a'u gwerthfawrogiad. Roedd y gryno ddisg newydd yn gwerthu fel slecs!
Fore Mawrth roedd yn rhaid ffarwelio 芒 chyfeillion a thylwyth yn Toronto cyn symud ymlaen i Efrog Newydd - cael cyfle ar y ffordd i weld Rhaeadr Niagra.
Roedd yn brofiad cael aros mewn gwesty moethus ar bwys Times Square a Broadway - digon o amser hefyd i grwydro o gwmpas a mwynhau'r atyniadau rhyfeddol. Perfformiwyd mewn un cyngerdd yn Efrog Newydd o dan arweiniad Trystan Lewis gyda Si芒n Louise Bratch yn cyfeilio - mewn Eglwys Episcopal y tro yma.
Erbyn cychwyn adref roedd pawb yn hynod o flinedig ond wedi mwynhau'r profiadau amrywiol ac yn ddiolchgar iawn i Lloyd a Laura Williams am eu trefniadau trylwyr o'r dechrau i'r diwedd.
Wedi'r ymweliad, daeth y llythyr yma i law:
Whitby
Ontario
10 Mai 2005
Annwyl Olygydd,
Rwyf wedi treulio penwythnos penigamp yng nghwmni C么r Meibion y Maelgwn yn y Gymanfa Ganu yn Stratford, Ontario. Roedd yn dda clywed y Gymraeg ym mhob cornel o'r gwesty a gwrando ar leisiau'r cantorion yn dod a'r hen iaith i'm clustiau unwaith eto.
Roeddwn yn mwynhau gwrando ar unawdau Trystan, Edgar, Wil ac eraill a chlywed Wil yn s么n am y Gerlan, Bethesda, lle mae'r cartref a adewais bron i hanner canrif yn 么l. Cwrddais hefyd 芒 hen wreigan oedd dros ei phedwar ugain oed oedd wedi teithio ar y tr锚n o Chicago i "glywed yr hogiau."
Bum yn sgwrsio gyda Trystan a Rhys, cyn-ddisgyblion o Ysgol y Creuddyn, am fy mrawd yng nghyfraith, Dewi Wyn Williams, oedd ddirprwy bennaeth pan oeddynt yno. Roeddynt yn ei "adnabod yn dda" medda nhw!!
Roedd y cyngerdd yn yr eglwys ar y nos Sadwrn o dan arweiniadTrystan yn fendigedig a'r hwyl a'r canu'n y gwesty wedyn yn werth chweil. Yn ystod y gymanfa fore Sul fe wnaeth i mi feddwl am yr emyn "Bydd canu yn y nefoedd pan ddelo'r plant ynghyd".
Mae Trystan yn 诺r odiaethol ddawnus, naturiol ac annwyl ei ffordd. Roedd yn fraint cael ei gyfarfod.
Hoffwn drwy gyfrwng Y Pentan ddiolch am y mwynhad a gefais pan ddaeth Trystan a'r c么r a blas o Gymru fach i Stratford, Ontario.
Yn gywir
Gwenhefin Evans