Wedi tair blynedd o ddysgu Cymraeg yn Ysgol y Babanod, Lloyd Street, cefais fy symud ym 1949 i'r Ysgol Gymraeg - yr Ysgol Gymraeg gyntaf yn Llandudno. Ar unwaith gwelais y gwahaniaeth. Yn Lloyd Street yr oeddwn yn trio dysgu ugain o blant bach i fod yn Gymry da ymysg cant a hanner o Saeson, ond yn yr Ysgol Gymraeg nid oedd y broblem yma yn bod. Gwir fod rhai o'r plant yn fratiog iawn yn eu Cymraeg ond erbyn diwedd y tymor cyntaf yr oeddynt i gyd yn siarad Cymraeg graenus.
Miss Eleanor Roberts, Llangwnadl oedd yno gyda mi am y mis cyntaf, ond ym mis Mehefin daeth Miss Mari Wynn Meredith, Bangor, i gymryd gofal yr ysgol, ac aeth Miss Roberts yn ôl i Lloyd Street.Nid yw adeilad yr Ysgol Gymraeg yn un hardd iawn o'r tu allan - hen gytiau y milwyr Americanaidd ydynt ond caiff pawb ddaw i mewn i'r ysgol eu siomi pan welant yr adeilad y tu fewn.
Mae pob dim yn newydd yma - y desgiau, cypyrddau, byrddau a'r celfi i gyd. Ceir awyrgylch lliwgar a hapus yma, a phawb yn mwynhau eu hunain yn chwarae, dysgu, dawnsio a 'gwneud popeth yn Gymraeg.'Ynghanol yr adeilad y mae gardd fechan, ac yr oedd y plant yn falch iawn o'r Cennin Pedr yr oeddynt wedi eu tyfu eu hunain erbyn Dydd Gwyl Dewi eleni.
Y mae'n debyg ein bod yn un o'r ysgolion mwyaf lwcus am offer at waith. Rydym yn ddyledus iawn i Bwyllgor Eisteddfod Bae Colwyn am £500 a'r arian i gael ei wario ar y plant a'r ysgol. Cawsom delyn yn anrheg gan y Pwyllgor, ac â pheth o'r arian yr ydym wedi cael piano, radio, portogram a phob math o gelfi ar gyfer y plant bach. Mae gennym neuadd fawr a llwyfan a llenni hardd, ac yma y mae rhai o actorion y dyfodol yn cael hwyl wrth ymarfer.
Daw ymwelwyr o bob man i'r Ysgol. Treuliodd y plant a minnau amser difyrrus dros ben yng nghwmni dau athro tywyll eu lliw o Orllewin Affrica. Buont yn canu caneuon eu gwlad eu hunain, yn disgrifio'u gwlad a dweud hanesion wrth y plant.
Ar y dechrau yr oedd ar rai o'r plant bach eu hofn, dywedodd Emlyn, sy'n chwech oed, eu bod yn ddu, yn hyll, yn fudr ac yn ddrwg, ond cyn hir yr oedd ef yn gafael yn llaw un ohonynt, ac yn tynnu ei law ar hyd ei wyneb. Daeth boneddiges o India, yn ei gwisg sidan laes amryliw i'r ysgol un dydd, a daeth hi a'r plant yn ffrindiau yn fuan iawn. Bu Mr Gwyn Daniel, Ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru gyda ni am fore cyfan.
Rhoddodd wers ar y Pyllau Glo i'r plant hynaf a bu'n gwylio'r plant bach yn actio rhai o hwiangerddi Cymru. Dwy foneddiges sy'n cael croeso hynod bob amser y deuant yma yw Miss Jennie Thomas, Bethesda, a Madam Ffreda Holland, y delynores. Cyfaill arall sy'n ymweld â ni yn gyson yw y Cynghorydd Hugh Owen. Aeth ef a'r plant am drip ar y trên bach yr haf diwethaf a'r tymor hwn cawsom wibdaith o amgylch y Gogarth ganddo.
Nid oes lle i neb diog yn yr Ysgol Gymraeg! Yr oedd gennym gyngerdd mawr y Nadolig diwethaf a chyngerdd wedyn wythnos Gwyl Dewi. Anfonasom bentwr o waith llaw a gwaith arlunio i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerffili, a bu ein Band Taro yn Eisteddfod Sir yr Urdd ym Mhorthmadog ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Wrecsam.
Dysgir Saesneg fel ail iaith ar ôl ir plant adael dosbarth y plant bach. Y mae llawer o bobl dan gam-argraff nad oes lle i Saesneg yn yr Ysgol Gymraeg, ond y maer plant yn cael gwers Saesneg drwyadl bob dydd or wythnos. Erbyn y byddant yn barod i adael yr Ysgol yn un ar ddeg oed gobeithiwn y medrant siarad ac ysgrifennu y ddwy iaith yn raenus.
Aeth blwyddyn gyntaf yr ysgol heibio - blwyddyn o waith caled, ond blwyddyn bleserus dros ben. Aeth nifer y plant i fyny o bymtheg i ddeugain. Mae angen athrawes arall arnom yn awr, gan fod gennym naw o blant bach dan bump oed a thua naw arall yn barod i ddyfod i mewn ym mis Medi.
Os ydych am glywed plant bach Llandudno yn cyd-adrodd:
Tri pheth a gywir garaf -
Fy Nghymru hyd yr eithaf
Fy nghyd-ddyn ymhob rhan o'r byd,
A Christ cyhyd y byddaf;
a'u gweld yn sefyll yn syth i ganu 'Hen Wlad fy Nhadau, dowch am dro i'r Ysgol Gymraeg, ac ynghanol lli Saesneg Llandudno, cewch groeso gwir-Gymraeg.
Atgofion Nans Williams Owen
Ymlaen i atgofion Mari Roberts