Criced yw ei brif ddiddordeb, a bu'n llwyddiannus iawn yn y gêm honno. Creda fod anogaeth ei ddau daid yn gyfrifol am ddenu ef i'r byd hwn - taid ar ochr Brian, ei dad, Bob Roberts, yn gryn gricedwr, a thaid ar ochr Carol, ei fam, Arthur Rowlands wedi cael treial pêl-droed gyda Manchester United. Mae rhieni Huw wedi mwynhau ei wylio ar y llain criced, er i'w chwaer Gwen gael ei llusgo yno heb fawr o barch iddo!Daeth Huw i'r byd yn Nyffryn Clwyd - ganed ef yn Llanelwy a bu'r teulu yn byw yn Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Dinbych, cyn mudo i Fae Colwyn, pan oedd ef yn 11 mlwydd oed. Treuliodd dri mis yn Ysgol Bod Alaw cyn mynd i Ysgol y Creuddyn. Aeth i Goleg Caer, lle graddiodd mewn Hanes a Gwyddor Chwaraeon, ac i Goleg Bangor ar gwrs paratoi ar gyfer gyrfa fel athro.
Bu'n ymarfer addysgu mewn ysgolion lleol megis Penmaenmawr a Glanwydden, lle bu'n llenwi bwlch wedyn am hanner tymor, ac yn cyflenwi am gyfnod yn Ysgol y Creuddyn. Wedi mynd i Awstralia am 5 mis, gyda ffrind o'r wlad honno bu'n chwarae criced i Fae Colwyn, daeth yn ôl adref, a chyn bo hir cafodd swydd fel athro Blwyddyn 3 yn Ysgol Pen y Bryn. Yn naturiol mae'n dysgu peth chwaraeon yno.
Hoffa Huw lawer o chwaraeon, ac yn arbennig golff a phêl-droed, gan fwynhau ar y teledu, gwffio, restlo a bocsio! Ffordd o ymlacio oedd hynny - y criced sy'n cyfrif. Cafodd gyfle i gynrychioli tîm Cymdeithasol Cymru pan oedd dan 16 oed, ac yn y blynyddoedd dilynol daeth i adnabod rhai o chwaraewyr Clwb Morgannwg. Daeth Huw yn enwog pan oedd Morgannwg yn chwarae ar gae Bae Colwyn yn erbyn Sussex.
Cafodd ei hun wrth gefn rhag ofn i anaf yrru un o hogiau Morgannwg o'r maes. Dyna ddigwyddodd, gyda Huw yn un o'r tîm am ddeuddydd. Manteisiodd yn llawn ar y cyfle gwerthfawr, gan ddangos dwylo medrus pan oedd y bêl ar lawr a dwylo bendigedig pan ddaliodd y bêl ddwywaith yn yr awyr, er mor gyflym yr oedd hi'n trafeilio. Robin Marlyn Jenkins a Tony Cottey (gynt o dîm Morgannwg) oedd y ddau enwog a anfonodd Huw i'r pafiliwn!
Yn ddoeth iawn rhodd ef y mwynhad o chwarae criced gyda thîm Bae Colwyn yn gyntaf, gan fod, bob tro, yn gwneud ei orau glas.
Er y sylw roddir i griced, rhaid cofio'r amser pan oedd yn chwarae pêl-droed. Cafodd gyfle, gyda thîm Gogledd Cymru dan 15 oed, ac wedyn 16 oed, i ymarfer gyda Michael Owen a chwarae yn erbyn Craig Bellamy - tipyn o gamp. Bron cystal â chwarae, fel mae yn awr gyda thîm Y Glannau dan arolygaeth Moi Parri, Prifathro Ysgol Bod Alaw, lle mae Huw yn y Gôl!
Un o arwyr amlycaf Huw ym myd criced yw Andre Nell o Dde Affrica, fu'n chwarae gydag ef i Fae Colwyn am gyfnod. Erbyn hyn mae Nell yn cynrychioli ei wlad ac wedi bowlio y cawr o fatiwr, Brian Lara, allan ddwywaith mewn un diwrnod - andros o gamp.
Rhydd Huw glod hefyd i Mark Waugh (Awstralia) a Chris Cains (Seland Newydd.) Gan ei fod wedi gwirioni ar griced, dymunwn iddo flynyddoedd o fawrhad a llwyddiant ar y maes. Mae'n ei deilyngu.