Mae nifer fawr ohonom wedi prynu tocynnau
, yn ystod y flwyddyn aeth heibio, am bunt y tro, mewn gobaith o ennill car Renault Clio campus yn y raffl fawr a drefnwyd i godi arian tuag at Gronfa Eisteddfod yr Urdd, Bae Penrhyn.
Ond, yr un a fu'n llwyddiannus oedd Helen Roberts o Lanfairfechan a welir
yn y llun yn eistedd yn ei char newydd sbon yn barod i fynd ar ei thaith gyntaf.
Llongyfarchiadau iddi hi gan obeithio y caiff flynyddoedd o bleser o'i yrru. Diolch yn fawr i bawb wnaeth brynu tocyn... neu ddau... neu dri!
Wrth gwrs, mae'r diolch mwyaf i Gwmni Gravells o Gydweli, De Cymru, am roi'r car yn rhad ac am ddim i'r Urdd ar gyfer y raffl.
|