Mawrth 2006
Glyn (Wise), prif ddisgybl Ysgol Dyffryn Conwy'n taro i mewn i Swyddfa Mrs Gwyneth Griffiths a leolir ym mloc y 6ed Dosbarth. Dim yn anarferol yn hynny gan ei fod yn arfer taro i mewn am baned a sgwrs bob hyn a hyn gyda Mrs Griffiths. Ar un bore neilltuol, mynegodd ei fod wedi cael llond bol ar fywyd ysgol a'i fod am ymgeisio am le ar raglen 'realaeth' Sianel 4 - Y Brawd Mawr o gyfieithu'r teitl.
"Ie wir!" meddai Mrs Griffiths "a cheisia gael lle yn y tÅ· i minnau hefyd".
Yn ddiarwybod i neb arall, ymgeisiodd.
Gwener, 12fed Mai
Glyn yn gofyn caniatâd yn yr ysgol am gael mynd ar ei wyliau i Baris am wythnos ychydig cyn yr arholiadau Safon Uwch. Y ddadl oedd mai, o bosibl, hwn fyddai'r tro olaf iddo fynd ar wyliau gyda'i rieni gan y byddai yn hanner mynd tros garreg yr aelwyd wrth fynychu coleg ag ati yn y dyfodol. Cytunwyd yn llawen â'r cais.
Iau, 18ed Mai (9.45 p.m)
Y Prifathro gartref yn gwylio rhaglen ar S4C digidol o'r Galeri yng Nghaernarfon. Ffôn y tŷ'n canu a Mrs Delyth Williams, Swyddog Gweinyddol yr ysgol yn gofyn iddo a oedd yn gwylio'r rhaglen 'Big Brother'. Derbyniodd ateb negyddol ond anogodd hi'r Pennaeth i droi Sianel yn gyflym ac i eistedd i lawr wrth wneud.
'Brensiach y bratiau!' 'Beth mae hwn yn dda yn famma?' oedd cwestiwn y Prifathro.
Gwener, 19 Mai
Holi o gwmpas yr ysgol a ffonio hwn a llall a darganfod mai'r cwmni teledu oedd wedi chwipio Glyn a'i deulu i Baris er mwyn ei gwneud yn haws iddo gadw'r gyfrinach am ei ddewisiad i fod yn un o'r bobl a fyddai yn y tÅ· - adlais o ennill cadair y Genedlaethol.
Mawrth, 23ain Mai
Yr ysgol yn cael galwadau ffôn a cheisiadau e-bost di-rif yn gofyn am hynt a helynt y bachgen diniwed o Flaenau Ffestiniog. Gwrthodwyd siarad gyda phymtheg o wahanol bapurau'r wasg Brydeinig a chwmnïau teledu Cymreig a Seisnig.
Gwyliau'r Sulgwyn 2006
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych - un hynod lwyddiannus i Ysgol Dyffryn Conwy ac ysgolion eraill y dalgylch. 'Glyn mania' yn parhau i daro'r cyfryngau Cymreig.
Mehefin 2006
Am y tro cyntaf, cylchgronau Seisnig yn dangos diddordeb enfawr yn Glyn gan ei fod
erbyn hyn yn cael ei gyfrif fel yr ail yn y ras i ennill y teitl yn ôl yr awdurdodau ar fetio. Am y tro cyntaf hefyd, gwelwyd ochr sinistr y wasg Brydeinig yn dod i'r wyneb gydag ieuenctid yr ysgol yn cael cynnig rhai miloedd o bunnau i ryddhau unrhyw straeon budr ac anweddus am Glyn. Diolch, hyd yn oed i'r rebel mwyaf o'r 'werin datws,' NI dderbyniwyd unrhyw gynnig o'r fath. Buan y bu i gynrychiolwyr y cwmnïau hyn a oedd yn ceisio cael mynediad i'r ysgol heb ganiatâd, gael eu danfon i ffwrdd yn ddiseremoni gan yr union ddisgyblion yr oeddent yn ceisio'u perswadio i ddatgelu unrhyw gamweddau.
Na, nid oeddent hwy am gael Glyn yn cael ei fychanu o gwbl. Wedi'r cyfan, dyma ddisgybl hynod boblogaidd a enillodd y bleidlais i fod yn Brif Fachgen a hynny ar ôl blwyddyn o fynychu'r ysgol yn unig.
Mercher, 16eg Awst
Aelodau'r Tîm Rheoli yn yr ysgol yn paratoi ar gyfer canlyniadau Safon Uwch 'trannoeth. Y ffôn yn boeth gan geisiadau'r Wasg a'r cyfryngau i fod yn bresennol ar y dydd pwysig hwnnw. Caniatawyd i'r fersiynau Cymreig fod o gwmpas.
Iau, 17eg Awst
Glyn wedi llwyddo i gael gradd 'A' mewn Celf (cwblhawyd yr arholiad CYN mynd i'r tÅ·) a dwy 'E' mewn Cymraeg a Saesneg - y rhain yn seiliedig ar waith cwrs a'i waith Uwch Gyfrannol ym mlwyddyn 12. Cofio hefyd iddo ennill gradd 'B' mewn hanes (UG) ym mlwyddyn 12. Llwyddodd, felly, i ennill mwy o bwyntiau UCAS nag oedd yr Adrannau Cymraeg ac Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor wedi gofyn amdanynt. Ennill lle ar ddigonedd o bwyntiau felly ac nid oherwydd unrhyw 'ffafriaeth' bosibl o fod yn aelod o'r rhaglen a'r tÅ· bondigrybwyll.
Gwener, 18fed Awst
Glyn oedd yr olaf ond un i gael ei ryddhau o'r tÅ·. Ei deulu, ei gyfeillion, ei gymdogion yn y
Blaenau a Chymru benbaladr yn ymgasglu ar gae rygbi Bro Ffestiniog i ddathlu'r achlysur. Hwyliau arbennig o dda ar bawb a oedd yn bresennol.
19eg - 26ain Awst
Glyn yn cael digonedd o waith yn Llundain wedi'i drefnu iddo gan asiant a gyflogwyd i edrych ar ei ôl. Bu iddo ddatgan ei fwriad i beidio â mynychu'r Brifysgol am flwyddyn arall a chytunodd Bangor i hynny gan addo lle iddo ar gyfer Medi 2007.
Y dyfodol
Pwy a ŵyr? Boed i Glyn fwynhau'i enwogrwydd ac rwy'n siwr y bydd yn cadw ei draed ar y ddaear fel y bu iddo wneud tros y tri mis y bu'n aelod o'r tŷ.
O ran y Gymraeg a'i awydd ef i ddysgu'r iaith i rai di-Gymraeg, gwelwyd, yn barod, nifer o ieuenctid yr ysgol a thu hwnt yn dangos brwdfrydedd anarferol mewn dysgu'r iaith gan nodi fod Glyn wedi dangos iddynt nad rhywbeth hen ffasiwn oedd siarad Cymraeg.
Bu'r tri mis diwethaf yn brofiad os nad dim arall i Glyn ac i lawer o'i gydnabod yn y Blaenau a Llanrwst. Diolch am hynny a phob dymuniad da iddo i'r dyfodol ble bynnag a beth bynnag fydd hynny.
(Diolch i Ifor Glyn Efans, prifathro Glyn, am gofnodi gyrfa Glyn Wise yn NhÅ·'r 'Brawd Mawr'.)