´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Derek Roberts, hyfforddwr ac Adie Jones, rheolwr, gydag un o'r arwyddion dwyieithog newydd. Arwyddion dwyieithog
Mai 2005
Clwb Pêl-droed Bae Colwyn
Bydd cefnogwyr o Loegr yn ymweld â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn yn gwybod yn iawn eu bod mewn gwlad wahanol o hyn ymlaen.
Fel rhan o welliannau i adnoddau Ffordd Llanelian, bydd arwyddion dwyieithog yn cael eu gosod o gwmpas y maes dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r clwb, sydd yn aelodau o Adran Gyntaf Cynghrair yr UniBond, wedi sicrhau grant fel rhan o Business Grant Busnes Bwrdd yr laith Gymraeg sydd wedi cyfrannu at gost yr arwyddion.

Gyda nifer o gefnogwyr yn medru'r Gymraeg, roedd y clwb yn awyddus fod yr iaith i'w weld o amgylch y maes."Yn ogystal â'n cefnogwyr lleol, mae bod yn rhan o'r pyramid pêl-droed yn golygu bod nifer sylweddol o Loegr yn ymweld â'r maes," meddai Is-Gadeirydd Bae Colwyn, Andy Owens.

"Rydym yn awyddus i hybu defnydd o'r iaith Gymraeg ac mae hwn yn ffordd effeithiol o wneud hynny."

Mae siaradwyr Cymraeg sy'n gysylltiedig gyda'r clwb wedi croesawu'r arwyddion newydd, fydd i'w gweld o gwmpas y maes.

"Mae yna un neu ddau o hogia yn siarad Cymraeg yma," meddai Derek Roberts, sy'n aelod o'r tîm hyfforddi. "Mae'n beth braf achos rydym yng Nghymru."

Ychwanegodd Elfyn Jones, sydd yn gefnogwr selog o'r tîm, y byddai'r arwyddion yn sicrhau bod cefnogwyr o Loegr yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith.

"Dwi'n meddwl ei fod yn syniad ardderchog ac mae'n dangos i ymwelwyr fod yna iaith wahanol," meddai.Y tymor nesaf bydd y clwb y dathlu eu 125 mlwyddiant ac mae nifer o ddigwyddiadau arbennig i nodi'r achlysur wedi eu trefnu.

Roedd cefnogwr arall, Eryl Jones, yn teimlo mai syniad da oedd fod y clwb yn hybu ei Chymreictod.

"Ni yw'r unig dîm Cymreig yn y gynghrair a dyla ni wneud mwy o hynny. Mae lot o bobl yn meddwl fod Bae Colwyn yn dim Seisnigaidd ond gobeithio bydd hyn yn helpu newid agwedd pobl tuag at y clwb.

"Mae arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog felly pam lai cael arwyddion Ffordd Llanelian hefyd."

Yn ddiweddar fe agorwyd drysau y Clwb Cymdeithasol newydd am y tro cyntaf a bu swyddogion y clwb, cefnogwyr a gwirfoddolwyr yn brysur am rai wythnosau yn gweithio ar yr adeilad newydd.

Gan Aled Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý