´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Platiaid o fwyd môr Gŵyl Fwyd Conwy
Tachwedd 2004
Cynhaliwyd Ffair Fwyd yn y dref dros y penwythnos Hydref 22ain - 24ain.
'Roedd y Ffair hon wedi denu llawer o ymwelwyr i'r dref ac yr oedd bwydydd ar werth mewn amryw o leoedd ar hyd a lled y dref.

Ar y sgwâr yr oedd pabell yn gwerthu cacennau cartref, llysiau lleol a wyau. Manteisiodd y gangen leol o Sefydliad y Merched i werthu eu cynnyrch yma.

Draw â ni i'r Neuadd Guild ac yma yr oedd cynnyrch Marchnata Teg. 'Roedd y byrddau yn cynnwys pob math o ddanteithion gan gynnwys Cacen Nadolig hardd am £9. 'Roedd cyfle i chwi flasu cymysgedd o reis a ffrwythau sych o bob math yma. Blasus iawn.

Rhaid oedd ymweld â'r Neuadd Ddinesig gan mai yno yr oedd yr amrywiaeth mwyaf o stondinau ac yr oedd cyfle i flasu ymhob un!

Lle ardderchog i brynu danteithion a gyfer y Nadolig - yn gnau, siocledi a diodydd o bob math. 'Roedd cigoedd a bwyd môr ar werth yma, iogwrt a theisennau a bisgedi. 'Roedd popeth yn edrych yn lliwgar iawn ac 'roedd y blas a'r arogl yn werth chweil.

Cyn mynd adref rhaid oedd galw yn y babell ac y Cei. Yma gwerthid cig lleol, wystrys a ffrwythau ac 'roedd hi'n wledd i'r llygad i weld ambell un yn llowcio'r wystrys yn llawen ac un arall yn gwneud stumiau hyll wrth geisio eu llyncu.

Difyr iawn oedd cael treulio amser yn mynd o babell i babell ac yr oedd llawer un yn cario bagiau yn llawn danteithion adref o'r Ŵyl gan edrych ymlaen at gael cefnogi gŵyl gyffelyb yn y dref flwyddyn nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý