´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Organ Bethania (Eglwysbach) Organ Bethania
Mawrth 2009
Yng nghyfarfod yr Hydref o'r Gymdeithas Hanes cafwyd dipyn o newid, sef ei gynnal ym Methania a chael darlith gan Trystan Lewis ar organ Bethania.

Cafodd yr organ ei hadeiladu gan Thomas Casson o Ddinbych, yr unig un yng Nghymru oedd yn adeiladu organau.

Erbyn heddiw, dim ond pedair organ o waith ei gwmni ef sydd ar ôl, a dim ond dwy o waith Thomas Casson ei hun, un yng Nghapel Coch, Llanberis a'r organ ym Methania, Eglwysbach.

Cartref cyntaf yr organ oedd gwesty St George, Llandudno. Fe'i prynwyd gan Bethania yn Ionawr 1920 am £310 gan dalu'r swm o £56 i W H Jones, Tan yr Ywen yn Chwefror am ei symud a'i gosod yn y capel.

Tros y blynyddoedd mae'r organ ' wedi cael ei gwasanaethu a'i hatgyweirio droeon.

Erbyn hyn, nid oes llawer o ddefnydd arni o Sul i Sul - yn hytrach defnyddir organ fach drydan.

Fe hysbysebwyd yr organ ar werth yn 1994, ond, trwy lwc, ni ddaeth prynwr.

Fe'i defnyddiwyd ar ambell achlysur wedyn, un oedd angladd y diweddar Mr Rich Griffiths, Y Fron, yn 2002 pryd cafwyd £400 sef rhodd er cof am Mr Rich Griffiths aeth yn gyfraniad sylweddol at y gost o £608 i'w hatgyweirio.

Erbyn hyn, mae'n rhaid ei hatgyweirio eto ac wrth gwrs rhaid codi arian.

Ar nos Iau, Chwefror 12fed, daeth nifer o aelodau yn cynnwys y Parch Gerwyn Roberts a'n horganyddion at ei gilydd i'r festri i gychwyn pwyllgor apêl i godi arian tuag at gael yr organ yn ôl i'w chyflwr gorau.

Y cadeirydd yw Nerys Owen, yr ysgrifennydd yw Katherine Himsworth, y trysorydd, Bryn Hughes.

Yn bresennol hefyd roedd Bett Needham, eleanor Roberts, Helen Jones, Eirlys a Hefin Jones, John Williams a George R Jones.

Bydd symud ymlaen rŵan i dapio pob ffynhonnell arian bosibl ac edrychwn ymlaen at weld a chlywed yr organ yn lawn urddas.

Bydd unrhyw drin a thrafod a phwyllgorau yn agored i'r aelodau i gyd, wrth gwrs.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý