Mae'r cynllun y cyntaf o'i fath drwy'r wlad ac mae'r cyngor tref ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru wedi sicrhau cytundeb i gael plismyn gwirfoddol (Special constables) i gerdded strydoedd am oriau penodedig bob wythnos.
Fe fu'n rhaid i'r prosiect gael caniatâd y Swyddfa Gartref yn dilyn misoedd o drafod a llunio cytundebau.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Edwards, sy'n gyn aelod o'r heddlu ac a fu'n bennaf gyfrifol am y cynllun, "Dywed y cyhoedd wrthym byth a beunydd mai eu consyrn mwyaf yw diffyg presenoldeb plismon ar y stryd.
"Y mae'r cynllun hwn yn mynd i wella'r sefyllfa. Byddwn yn dewis swyddogion gwirfoddol sydd a phwerau'r heddlu. Hoffwn eu gweld yn rhan o'r gymuned ac yn defnyddio dull draddodiadol o ddelio â phroblemau ar y cychwyn cyn i bethau fynd o ddrwg i waeth, ac yn lle 'Asbos'.
"Bydd Y Cyngor yr Heddlu a'r Swyddfa Gartref yn cadw golwg manwl ar y cynllun ac os bydd yn llwyddo ym Mae Colwyn,yna fe all gael ei ddefnyddio yn Llandrillo yn Rhos a Hen Golwyn."
Dywedodd y cynghorydd Glyn Jones YH, sydd ar fin gorffen ei dymor fel Maer Colwyn, pa mor falch yr oedd o'r cynllun a'r ffaith fod yr heddlu a'r cyngor tref yn cyd-weithio i alluogi'r cynllun fynd ymlaen.
"Bydd y garfan hon o'r heddlu yn lleihau yr ofn o drosedd ynghyd â throseddu. Edrychwn ymlaen i weld y cynllun ar waith"
Dywedodd John Roberts, clerc cyngor y dref, sydd hefyd yn ynad heddwch, "Cred y cynghorwyr tref fod yr arian gyfrannwyd at y cynllun yn werth pob dimai i gael presenoldeb plismon ar y stryd.
"Wrth gwrs fe fydd cyngor y dref yn cadw llygad ar y cynllun tra'n cyd weithio a'r Arolygwr G Ashton, fydd yn gyfrifol am y cynllun."
|