´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Y corws Sŵn y Gân
Ionawr 2006
Gyda chaniatâd cwmni Josef Weinberger (am dâl hawlfraint a dim cyhoeddusrwydd ar wahân i gyhoeddusrwydd llafar), bu i Ysgol Dyffryn Conwy lwyfannu rhannau o'r sioe gerdd enwog am dair noson ychydig cyn y Nadolig.
Cynhyrchiad dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) oedd hwn gyda'r ddwy iaith yn cael eu defnyddio yn ystod y cynhyrchiad. Mae rhai o'n darllenwyr yn cofio inni lwyfannu cynyrchiadau Cymraeg ar un noson a Saesneg ar y llall gyda chastiau gwahanol yn y gorffennol.

Y tro hwn, rhoddwyd cyfle i 72 0 ddisgyblion berfformio'n ddwyieithog a braf oedd gweld nifer a oedd yn derbyn eu cyfle cyntaf i actio'n gyhoeddus. Yn wir, roedd Kyle Shirajudin (Capten Von Trapp) o Benmachno yn syrthio i'r categori hwn. Yn anffodus, ychydig wythnosau cyn y perfformiadau, darganfuwyd fod Kyle yn dioddef o Glefyd y Siwgr a bu'n rhaid iddo dreulio rhai dyddiau mewn ysbyty yn rheoli'r aflwydd.

O ystyried y problemau salwch a gafodd wrth ymarfer, mae'n rhyfeddod iddo allu dygymod â pherfformio o gwbl ond gwnaeth hynny'n hynod lwyddiannus.

Golygfa o'r sioeChwaraewyd rhan Maria, y lleian, a oedd gyda'r brif ran, yn hynod ddeheuig gan Kathleen Button o Lanrwst. Bu iddi roi ei holl ymdrech i'r perfformiadau ac roedd yn gwybod llinellau bron pawb o'r cast. Dyma enghraifft o roi'r cyfan i'r perfformiad. Un arall y derbyniwyd canmoliaeth fawr i'w actio oedd eiddo Tom Awdry o Benmachno. Er ei fod yn gymharol fychan o gorffolaeth gwnaeth iawn am hynny trwy gael y gynulleidfa yn ei ddwylo ym mhob perfformiad.

Y tro hwn, rhoddwyd cyfle i blant llai galluog yn academaidd i gymryd rhan - hyn yn unol â pholisi'r ysgol o fod yn un gynhwysol gan geisio rhoi cyfle i bawb. Roedd gweld eu hymdrech arbennig yn wledd i'r llygad a theimlwyd yn falch iawn o'u hawydd i gymryd rhan.

Dyma'r tro cyntaf inni lwyfannu Sioe Gerdd ers rhai blynyddoedd. Diolch i BAWB a gynorthwyodd mewn unrhyw fodd i wneud y perfformiad yn un llewyrchus. Rwy'n siŵr na fydd neb yn gwarafun imi enwi rhai athrawon a fu'n hynod gefnogol o'r cynhyrchiad gyda'u hamser a'u brwdfrydedd. Cyfeiriaf yn neilltuol at Mrs Joy Ostle (Cynhyrchydd), Mr Chris Roberts a Mrs Linda Morus (Cyfarwyddwyr Cerdd), Mrs Ann Davies (Dawns), Mr Gwyn Hughes Roberts (Set), Mr lan W Griffith a Mr Neil Harris (Sain a Goleuo). Bu'r Staff Gweinyddol ac eraill yn cynorthwyo gyda'r coluro a threfniadau gwerthu tocynnau ag ati ac mae'n diolch a'n gwerthfawrogiad iddynt hwythau hefyd am eu gwaith dygn a phwysig.

Serch y diffyg hawl i roi cyhoeddusrwydd trwy bosteri ag ati i'r sioe, llwyddwyd i gael neuadd lawn ar y tair noson a barn y mwyafrif wrth fynd allan ar y diwedd oedd iddi fod yn brofiad gwefreiddiol bob tro. Gofynnwyd sawl tro ar y tair noson am inni baratoi sioe gyffelyb debyg yn fuan eto - ond amser a ddengys beth a ddaw i'r dyfodol. Tybed beth fyddech chwi fel darllenwyr yn ei hoffi tua Nadolig y flwyddyn nesaf - ai Gwasanaeth Carolau lled draddodiadol ynteu sioe debyg i hon? Byddai'n ddiddorol gwybod.

Ond am y tro, gobeithio fod pawb wedi ennill budd o gymryd rhan a phwy a ŵyr na welwn enwau rhai o'r actorion ar fyrddau y tu allan i brif theatrau'n gwlad ymhen rhai blynyddoedd. Eto, amser a ddengys!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý